12fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sy'n gyfrifol am drefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o'r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i'r dulliau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu defnyddio wrth ddysgu.
Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, cyflwyniadau a siaradwyr gwadd.
Cynhaliwyd y 12fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu rhwng dydd Mawrth 10 a dydd Iau 12 Medi 2024.
Thema cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni oedd:
Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol