Ffrydio Fideos

Gall aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth ychwanegu cynnwys fideo at weinydd ffrydio'r Brifysgol fel eu bod ar gael at ddibenion addysgol e.e. trwy Blackboard. (Sut mae gwneud hynny?)

Gallai ffynonellau ffilmiau o'r fath gynnwys:

  • recordiadau eglurhaol byr i gefnogi dysgu.
  • recordiadau o ddarlithoedd a digwyddiadau eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • recordiadau oddi ar yr awyr gyda thrwydded ERA (Gall staff wneud cais i raglenni gael eu recordio yma).
  • casgliadau ar-lein â chliriad hawlfraint e.e. Film & Sound Online.

Deallwch fod gorfodaeth hawlfraint yn y maes hwn yn gryf iawn a bod yn rhaid i unrhyw fideos sydd ar gael ar y we gael cliriad hawlfraint llawn.

Fel canllaw cyffredinol:

  • Ni ellir ffrydio fideos neu DVDiau a recordiwyd ymlaen llaw heb gliriad ysgrifenedig gan ddeiliad neu ddeiliaid yr hawlfraint
  • Gall fideos a gynhyrchir yn y cartref hefyd fod â materion hawlfraint; er enghraifft, os ydynt yn cynnwys delweddau, clipiau fideo/sain neu gerddoriaeth gefndirol.

Ceir rhagor o fanylion yma.