Cais am Brosiect Digidol a Newid

Pan fyddwch yn ystyried dechrau prosiect digidol newydd (gan gynnwys prynu meddalwedd newydd) neu angen gwneud newid i system bresennol, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i ni mewn da bryd.

Rhaid gwneud cais am bob prosiect digidol a newid drwy'r system Cais am Brosiect Digidol neu Newid

Byddwn yn asesu a yw'r cais am brosiect digidol neu newid yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol y Brifysgol, yn ogystal ag ystyried eu heffaith, eu cost a'u manteision cyn cymeradwyo.

Cyn symud ymlaen â phrynu a gweithredu meddalwedd neu wasanaethau newydd gan ddarparwr allanol, mae hefyd nifer o wiriadau a chymeradwyaethau eraill y bydd angen eu cwblhau:

Ni ddylech ddechrau prosiect digidol cyn cael yr holl gymeradwyaeth angenrheidiol a sicrhau y bydd y prosiect yn bodloni'r holl safonau angenrheidiol.

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.

Beth yw prosiect digidol?

Gellir diffinio prosiect digidol fel pecyn o waith sy'n cael ei wneud er mwyn creu allbwn sy'n ddigidol ei natur.  Gallai hyn fod yn wefan, system, rhaglen neu broses ddigidol newydd neu wedi'i ddiweddaru. Mae prosiectau digidol yn gyfyngedig gyda man cychwyn a gorffen penodol ac maent yn cynnwys nifer o dasgau y mae angen eu cwblhau er mwyn cyflwyno'r prosiect digidol. Bydd prosiect digidol yn gofyn am amser staff ac adnoddau yn ogystal â chyllideb.

Enghreifftiau o brosiectau digidol:

  • Cyflwyno’r system RhPC newydd (Rheoli'r Berthynas â Chwsmeriaid)
  • Datblygu system cofnod myfyrwyr newydd.
  • Gweithredu system trydydd parti i ymdrin â chofnodi digwyddiadau
  • Uwchraddio mawr o Blackboard i Blackboard ULTRA
  • Symud ein CMS i'r cwmwl yn hytrach na defnyddio gweinyddwyr lleol
  • Cyflwyno adnodd newydd ar gyfer arolygon staff

Noder: Nid yw prosiectau ymchwil sy'n ddigidol eu natur yn cael eu cynnwys yn y weithdrefn hon. Os ydych chi'n cynllunio prosiect ymchwil newydd, siaradwch ag YBA. Os bydd angen gwefan arnoch yn rhan o'ch prosiect, edrychwch ar ein gwybodaeth ar sut y gall y GG helpu: Gwefannau ar gyfer Prosiectau Ymchwil (pdf)

Beth yw cais am newid?

Mae cais am newid yn gynnig i addasu system, neu newid gofynion a osodwyd ar ddechrau prosiect digidol.

Enghreifftiau o geisiadau am newid:

  • Newid i'r meysydd a ddefnyddir yn y ffurflen CCE
  • Adroddiad newydd yn AStRA
  • Cwestiwn ychwanegol ar ffurflen bresennol ar y we
  • Diweddariad i dudalen we i gywiro gwybodaeth hen
  • Ychwanegu pin newydd i fapiau'r Brifysgol

Beth sydd arnaf ei angen?

Cyn dechrau llenwi'r ffurflen i wneud cais am brosiect digidol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am y meysydd canlynol:

  • Pwy fydd noddwr y prosiect? Dylai’r noddwr fod yn aelod o’r uwch dîm rheoli
  • Disgrifiad byr o’r prosiect digidol arfaethedig
  • Beth yw’r cefndir a’r rhesymegdros y prosiect digidol arfaethedig?
  • Sut mae'r prosiect digidol arfaethedig yn ymwneud â Strategaeth Ddigidol y Brifysgol?
  • Ar bwy fydd y prosiect digidol arfaethedig yn effeithio? e.e. staff, myfyrwyr, pob defnyddiwr, adran(nau) penodol, ac ati.
  • Beth yw prif fanteisiony prosiect digidol arfaethedig?
  • Beth yw goblygiadau peidio ag ymgymryd â’r prosiect digidol arfaethedig?
  • A fydd y prosiect digidol arfaethedig yn cynnwys trydydd parti? Os felly, gwnewch yn siŵr bod gennych eu manylion wrth law
  • A fydd y prosiect digidol arfaethedig yn golygu isadeiledd TG newydd?
  • Ydych chi wedi cytuno ar gyllideb ar gyfer y prosiect digidol arfaethedig? Os felly, gwnewch yn siŵr bod gennych yr wybodaeth wrth law
  • Oes gennych chi ddyddiad cwblhau ar gyfer y prosiect digidol arfaethedig?
  • Beth fydd yn dynodi cwblhad y prosiect digidol arfaethedig?
  • Oes gennych chi unrhyw ddogfennau neu wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r prosiect digidol arfaethedig? Bydd cyfle i uwchlwytho ffeiliau wrth gyflwyno’r ffurflen felly gwnewch yn siŵr bod y rhain yn barod

Beth sy'n digwydd i’m cais?

Bydd eich cais yn cael ei drafod gan Grŵp Adolygu’r GG (Rheolwyr Trawsnewid Digidol a Phennaeth Cymwysiadau TG a’r Tîm Datblygu) yn eu cyfarfodydd wythnosol rheolaidd. Gan ddibynnu ar gynnwys y cais gallant ei gymeradwyo ar unwaith, gofyn am ragor o wybodaeth, anfon y cais ymlaen i'w gymeradwyo gan rywun arall, neu wrthod y cais. Gallwch weld cynnydd eich cais drwy'r system Cais am Brosiect a Newid.