Benthyciadau Offer

Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ystod o offer sydd ar gael i'w benthyg am dymor byr. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i Staff a Myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol.

Benthyca offer - telerau defnyddio

Mae benthyca a defnyddio  stoc offer benthyg yn unol â rheoliadau a chanllawiau'r Gwasanaethau Gwybodaeth

  • Mae’n rhaid bod gennych gyfrif llyfrgell PA cyfredol a Cherdyn Aber.
  • Mae'r offer i'w ddefnyddio at ddibenion Prifysgol Aberystwyth yn unig.
  • Mae'r benthyciwr yn gyfrifol am unrhyw offer a gollwyd neu a ddifrodwyd.
  • Mae pob eitem yn cael ei gwirio pan ddychwelir ac anfonebir defnyddwyr y gost o atgyweirio neu amnewid unrhyw eitemau a gollwyd neu a ddifrodwyd.
  • Fel rheol cewch fenthyg offer am saith diwrnod; os ydych chi angen yr offer am fwy o amser gallai hyn fod yn bosibl, yn amodol ar argaeledd; gofynnwch pan fyddwch yn archebu.
  • Bydd yr eitem yn adnewyddu os nad oes defnyddiwr arall wedi gofyn amdano - hyd y cyfnod benthycaf hiraf o bedair wythnos yn unig.
  • Rhaid i chi ddychwelyd eitemau a fenthycwyd cyn gynted ag y maent yn ddyledus neu pan ofynnir ichi i wneud hynny gan Staff y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Noder

  • Rhaid casglu'r offer o Lyfrgell Hugh Owen.
  • O ganlyniad i’r galw mawr am yr offer rydym yn argymell eich bod bob amser yn archebu’r offer o flaen llaw.  I archebu anfonwch e-bost at gg@aber.ac.uk
  • Batris - bydd batris a gwefrydd yn cael eu cyflenwi ar gyfer unrhyw offer sydd angen batris y gellir eu hailwefru. Noder efallai na fydd y batris wedi’u gwefru’n llawn pan fyddwch yn casglu’r offer. Os nad oes modd rhedeg yr offer ar fatris y gellir eu hailwefru, bydd rhaid i’r defnyddiwr gyflenwi eu batris eu hunain.
  • Gallwch weld unrhyw geisiadau yr ydych wedi eu gwneud am offer trwy fewngofnodi i Primo a dilyn y cyfarwyddiadau hyn
  • Gallwch ddileu unrhyw geisiadau yr ydych wedi ei gwneud am offer trwy fewngofnodi i Primo a dilyn y cyfarwyddiadau hyn
  • Gallwch weld dyddiad dychwelyd eich benthyciadau offer trwy fewngofnodi i Primo gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn
  • Bydd cyfarwyddiadau a chanllawiau cychwyn cyflym yn dod gyda'r offer ble mae hynny'n berthnasol
  • Bydd cyfarwyddiadau darluniadol yn dod gyda'r offer (e.e. ceblau ac ati)

 

Mae’r eitemau canlynol ar gael i’w benthyg am dymor byr wrth y Gwasanaethau Gwybodaeth:

Addasyddion Wi-Fi USB di-wifr Mae'n defnyddio gwifrau trydanol eich cartref i gysylltu'r llwybrydd mewn ystafell arall i wella cysylltiad rhwydwaith.
Arddangosyddion Braille Yn darparu rhyngwyneb cryno, cyffyrddol i gyfrifiadur
Argraffyddion Argraffydd Bwrdd Gwaith Laser Du & Gwyn
Bysellfwrdd Bysellfwrdd cysylltu â gwifren
Camcordyddion bach Camcordyddion HD bach maint cledr llaw yn dda ar gyfer cymryd hunluniau a fideos YouTube.  Cardiau SD ar gael ar wahân.
Camcordyddion llaw Camera fideo proffesiynol, safonol symudol a diffiniad uchel.  Cardiau SD ar gael ar wahân.
Camera dogfennau - defnydd staff yn unig Delweddydd diwifr braich mecanyddol gyda chamera gwe wedi'i adeiladu'n arbennig ar gyfer taflunio delweddau o ddogfennau a gwrthrychau yn grimp ac yn glir.
Camerâu digidol llun llonydd Camera un lens digidol Canon EOS 700D.  Cardiau SD ar gael ar wahân.
Ceblau
  • Apple HDMI - Cebl / addasydd HDMI i gysylltu âg arddangosfa HDTV, neu ddyfeisiau HDMI eraill
  • HDMI-DVI - Ar gyfer addasu allbwn HDMI i fewnbwn DVI
  • HDMI-HDMI - Ar gyfer cysylltu dyfeisiau clyweled gyda'i gilydd.
  • USB-C i USB3 - Cysylltydd siâp cildroadwy ac sydd yn hawdd ei blygio i mewn. Defnyddiwch ar gyfer gwefru ffonau, tabledi a gliniaduron. 
  • USB 2.0 Gwryw i Benyw - Ar gyfer ymestyn cysylltiadau USB
  • USB i USB Micro - Ar gyfer cysylltu dyfeisiau fel ffonau clyfar, chwaraewyr Mp3, dyfeisiau GPS, argraffwyr lluniau a chamerâu digidol.
Cardiau SD
  • Cerdyn SD 32GB ar gyfer camerâu lluniau llonydd.
  • Cerdyn Micro SD 8GB ar gyfer camcordyddion bach.
  • Cerdyn SD 64GB ar gyfer camcordyddion llaw
  • Cerdyn Micro SD 32GB ar gyfer Camerâu GoPro
Chwaraewr CD System Sain Gludadwy gyda chwaraewr CD, radio a chwaraewr chasét.
Chwaraewr DVD/CD/MP3 Chwaraewr Disgiau Aml-Ranbarth.
Chwaraewyr Fideo Chwaraewr Fideo VHS.
Chwyddwydrau- benthyciad un diwrnod yn y llyfrgell yn unig 3 x Chwyddwydr cromen lachar 3 x, chwyddwydr bar, 1 x chwyddwydr llaw, 1 x chwyddwydr bwrdd.  Benthyciad un diwrnod yn y llyfrgell yn unig.
Cloeon diogelwch gliniaduron
Clo ól-dynadwy,  Clo cebl a allwedd, Clo Cebl Cyfuno
Clustffonau   Ffonau pen caeedig proffesiynol Beyerdynamic DT109 gyda chysylltiadau meicroffon a jac ar gyfer cymwysiadau darlledu a ffilm byw.
Cyflwynydd laser o bell a derbynnydd USB Kensington Laser Presenter.
Cyfrifiaduron Staff  I'w defnyddio ar y campws ar parth PAU yn unig
Darllenyddion Cardiau Darllenydd cerdyn 4 slot. Cytunedd cerdyn: SDXC, SDHC, SD, Micro SDXC, Micro SDHC, Micro SD 
Darllenydd RFID - defnydd staff yn unig Darllenydd adnabod amledd radio (RFID)
Derbynnydd dolen clyw is-goch personol System sain gynorthwyol i gynorthwyo cyfathrebu â phobl â nam ar eu clyw. Dewis arall poblogaidd yn lle system dolen sefydlu.
Dolen clyw cludadwy System gadarn i'w defnyddio gan bobl â chymhorthion clyw
Gliniadur Windows 10 gyda gwe-gamera, meicroffon, gyriant DVD-RW, mynediad i'r we â gwifrau a diwifr.
GoPro 2 x Hero a 2 x Hero 3.  Mae GoPros yn gamerâu bach cadarn, camerâu gyda lens ongl eang wedi'i gynllunio i gipio safbwynt a symudiadau.  Wedi'u cyflenwi gydag ystod o atodion.  Cardiau SD ar gael ar wahân.
Gwe-gamerâu  gwe-gamera gyda microffon
Gyriant Allanol Ysgrifennwr Darllenydd Disgiau
Gwefrydd USB Addasydd Gwifren USB Cyffredinol Aml-Gebl ar gyfer gwefru’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol 
Hyb USB C I ychwanegu cysylltiadau a phorthladdoedd at gliniaduron neu dabledi.
iPad tabled iPad.
Lamp ddesg lamp addasadwy.
Larwm personol - benthyciad un diwrnod Dyfeisiau electronig bach llaw sy'n allyrru sain brawychus o uchel tebyg i seiren. Gellir ei actifadu naill ai gan fotwm, neu dag.
Lego Clasurol - at ddefnydd staff yn unig Lego bach a mawr
Llygod Llygod gwifrog.
Microddesg Bwrdd ysgrifennu wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan unigolion ag anableddau corfforol neu niwrolegol.  I'w ddefnyddio ar ddesgiau safonol sengl  
Microffonau Cyddwysydd Cyfeiriadol Meicroffon ysgafn, wedi'i ddylunio ar gyfer cymwysiadau proffesiynol yn y diwydiannau ffilm, fideo, teledu a chynhyrchu.
Microffonau Llabed Mae meicroffonau Llabed yn darparu sain o ansawdd darlledu.
Microffonau Podledu Meicroffon USB cyfeiriad diwedd deinamig sy'n cyfuno sain o ansawdd darlledu â symlrwydd cysylltedd USB, gan ganiatáu recordio yn uniongyrchol i gyfrifiadur heb yr angen am ryngwyneb digidol ychwanegol 
Monitor  
Recordydd Llais Recordwyr sain cludadwy bach ar gyfer cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd, memos i chi'ch hun ac ati.
Recordydd Llais - Zoom handy Recordydd llaw ar gyfer ffilm a darllediad, newyddiaduraeth, podledu a pherfformiad cerddorol.
Rhybuddion byddar - benthyciad un diwrnod System larwm tân yn seiliedig ar radio ar gyfer pobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn negeseuon brys a chyfathrebiadau mewn unrhyw adeilad ar y Campws sy'n dangos yr arwydd Rhybuddion Byddar.  Benthyciad un diwrnod yn unig.
Seinydd / microffonau Dyfais plygio-a-chwarae, sy'n cynnwys meicroffon cyfeiriadol omni
Setiau pen Setiau pen gyda chord plygio a chwarae gyda meicroffon a jack ar gyfer cymwysiadau darlledu a ffilmio byw.
Setiau pen recordio SS Set pen recordio i'w defnyddio gyda pen clyfar.  Mae'r nodwed buds clust wedi'i fewnosod i'r microffonau ac sydd yn gallu recordio mewn sain stereo o ansawdd uchel
Setiau Realiti Rhithwir - at ddefnydd staff yn unig Sbectol realiti rhithwir Bobo VR Z4
Sganiwr Sganiwr gwely fflat A4
Sgrin taflunydd Sgrin ar gyfer cyflwyniadau aml-gyfrwng
Standiau llechen Mae'r stand ddesg yn cymryd tabledi 12cm - 32cm (4.7- 12.9 modfedd), E-ddarllenyddion a ffonau clyfar.  Mae'r stand llawr yn gydnaws â'r tabledi a'r ffonau mwyaf poblogaidd oddi mewn 3.5-10.6 modfedd.
Switsh 5-porth - at ddefnydd myfyrwyr yn unig Yn galluogi ehangu cysylltiadau rhwydwaith i ddyfeisiau lluosog ar unwaith.
Systemau Annerch Cyhoeddus Systemau Annerch cyhoeddus ar gyfer chwyddo llais neu gerddoriaeth.
Tabledi - Android – at ddefnydd staff yn unig  Samsung Galaxy Tab A-16GB-9.7 modfedd
Tabledi Cyffwrdd Tabled graffeg i alluogi delweddau, animeiddiadau a graffeg gyda llaw, gyda phen stylus.
Taflunyddion Data  Ar gyfer taflunio cyflwyniadau sleidiau o sgrin gyfrifiadur i sgrin mawr neu wal.
Treipodau Treipod maint llawn gyda phen padell 2 neu 3-ffordd gyda llwyfannau rhyddhau cyflym 
USB 3 i addasydd Ethernet I gysylltu dyfais USB 3.0 yn hawdd â llwybrydd, modem, neu switsh rhwydwaith.
USB C i addasydd Ethernet Cysylltu â rhwydweithiau gwifrau gyda chyflymder a dygnwch lle mae cysylltedd diwifr yn annibynadwy neu'n anghyson.