Rhwydwaith TG Prifysgol Aberystwyth

Mae cysylltiad rhyngrwyd allanol Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ddarparu trwy rwydwaith (PSBA) yng Nghymru, a'r Rhwydwaith Academaidd ar y Cyd (JANET) yn amgylcheddau academaidd ac ymchwil y Deyrnas Unedig.

Y Gwasanaethau Gwybodaeth sy'n gyfrifol am ddarparu mynediad i’r rhwydwaith, gan gydymffurfio â Pholisi Rheoli’r Rhwydwaith a’r Polisi Di-wifr, ledled y Brifysgol.

  • Dylid defnyddio cysylltiad â gwifren pan fo cyflymder a sefydlogrwydd y cysylltiad yn bwysicach na pha mor gyfleus ydyw. Mae cysylltiad â gwifren yn cynnig cyflymder o 100Mbps, ac mae'r rhan fwyaf o ardaloedd bellach yn cefnogi cysylltedd 1000Mbps a Power Over Ethernet (PoE).
  • Nid yw cysylltedd di-wifr yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer defnydd hanfodol, a dim ond pan fo’r angen am gyfleustra yn drech na dim arall y dylid ei ddefnyddio.

Sicrhau bod socedi yn fyw

  • Nid yw pob soced rhwydwaith ym mhobman yn fyw.
  • Os ydych am ddefnyddio soced rhwydwaith sydd eisoes wedi’i osod, gofynnwch wrth y Gwasanaethau Gwybodaeth a yw'r soced hwnnw'n fyw cyn symud eich cyfrifiadur.
  • Bydd angen i chi roi rhif yr ystafell, enw'r adeilad a rhif y soced.

Ychwanegu socedi

  • Os oes angen socedi rhwydwaith ychwanegol arnoch cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
  • Bydd angen i chi roi rhif yr ystafell ac enw'r adeilad.

Darparu mynediad mewn ardaloedd newydd neu rai sydd wedi eu hadnewyddu

  • Rhaid cynnwys y Gwasanaethau Gwybodaeth mewn prosiectau sy’n cael eu cynllunio ar gam mor gynnar â phosibl er mwyn sicrhau bod digon o rwydweithio yn rhan o fanyleb y prosiect.
  • Rhaid i elfen rhwydweithio data y fanyleb gwmpasu
  • Cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth i drafod eich gofynion ac i wneud trefniadau.

Costau

  • Bydd y gost yn dibynnu ar lefel y newidiadau i’r seilwaith sydd eu hangen er mwyn cyflawni unrhyw gais.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyngor ar gysylltu â'r rhwydwaith, ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin