Clirio 2023

Ffoniwch ni ar 0800 121 40 80

Gwnewch gais i Aberystwyth drwy Glirio

Os ydych chi’n chwilio am le trwy’r broses Glirio neu’n ailystyried eich dewisiadau ar gyfer mis Medi, dyma’r lle i chi. Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio nawr ar 0800 121 4080, a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r cwrs iawn i chi.

Wedi derbyn eich canlyniadau? Ymgeisiwch Ar-lein

Y broses Glirio yn Aberystwyth

Eich Canllaw Clirio

Mae ein Canllaw Clirio yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y broses Glirio; o sut i wneud cais ag osgoi straen, i wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i chi. Mae gennym dîm ymroddedig o staff i’ch arwain drwy’r broses Glirio.

Dysgwch fwy

Pam astudio yn Aberystwyth?

Yn ogystal â bod yn un o’r lleoliadau astudio mwyaf arbennig yn y DU, Aberystwyth yw eich lle ar gyfer rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil a phrofiadau myfyrwyr unigryw. Mae Aberystwyth ar y brig yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd y Dysgu (Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni? 2023) ac ar y brig yng Nghymru a Lloegr am Fodlonrwydd Myfyrwyr (ACF 2022). Mae ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, sy’n golygu bod ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, mewn adrannau blaenllaw o ran ymchwil byd-eang.

Astudiwch gyda ni