Y Flwyddyn Sylfaen

Cynlluniwyd eich Blwyddyn Sylfaen i’ch cyflwyno i’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen er mwyn dilyn cwrs gradd yn Aberystwyth. Byddwch yn astudio gyda myfyrwyr sydd wedi dewis yr un pwnc â chi, yn ogystal â myfyrwyr eraill sy’n astudio cwrs blwyddyn sylfaen integredig mewn pynciau eraill yn y Dyniaethau, y Gwyddorau Cymdeithasol neu’r Gwyddorau Naturiol.

Ymgeisiwch Nawr

Mae’r rhaglen Sylfaen yn addas:

  • Os nad ydych yn gallu bodloni’r gofynion mynediad arferol ar gyfer cynllun tair blynedd
  • Os ydych yn ansicr ynghylch beth i’w astudio a bod arnoch eisiau cael blas ar wahanol bynciau
  • Os ydych wedi bod allan o fyd addysg ers tro ac yn dymuno dychwelyd.

Bydd y Flwyddyn Sylfaen yn Aberystwyth yn rhoi cyflwyniad eang ichi i syniadau, damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol ledled y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Fe’i cynlluniwyd i’ch galluogi i brofi a myfyrio ar brofiadau dysgu trawsddisgyblaethol; i ddatblygu eich sgiliau rhesymu beirniadol; ac i wella eich sgiliau cyfathrebu. Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn cyflwyno myfyrwyr i’w dewis gynllun gradd yn ystod y semester cyntaf, cyn rhoi blas ar fodiwlau’r pwnc yn yr ail semester.

Os ydych yn fyfyriwr yn y Dyniaethau (Saesneg, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Hanes a Hanes Cymru) neu’n fyfyriwr yn y Gwyddorau Cymdeithasol (Cysylltiadau Rhyngwladol, Daearyddiaeth, Daearyddiaeth Ddynol, Cymdeithaseg, y Gyfraith, Troseddeg, Addysg), byddwch yn astudio modiwlau craidd a fydd yn rhoi cyfle ichi archwilio themâu allweddol sy’n gysylltiedig â’ch dewis gwrs gradd a hynny o safbwynt rhyngddisgyblaethol.

Os ydych yn fyfyriwr yn y Gwyddorau Naturiol (Daearyddiaeth Ffisegol, Gwyddor yr Amgylchedd, Gwyddor Daear Amgylcheddol), bydd gennych fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. Bydd eich modiwlau craidd yn eich cyflwyno i hanfodion astudio’r byd naturiol a byddant yn cynnwys gwaith maes yn yr ardal leol. Fe’ch cyflwynir i gysyniadau rheoli’r amgylchedd trwy ymchwiliadau maes yn nyffryn Ystwyth, afon Rheidol ac arfordir Aberystwyth. Byddwch hefyd yn astudio modiwlau a fydd yn rhoi ichi’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen er mwyn cyfleu syniadau mewn cyd-destun academaidd.

Mae’r cynlluniau isod bellach yn cynnig cwrs Sylfaen Integredig:

Byddwch yn astudio modiwlau fydd yn cyflwyno cynnwys academaidd eich pwnc, a byddwch yn meithrin sgiliau eraill fydd yn eich hyfforddi i lwyddo yn eich gradd Anrhydedd. Yn eu plith y mae:

  • Sgiliau TGCh yn y brifysgol
  • Ysgrifennu academaidd i fyfyrwyr
  • Modiwlau profiad dysgu i’ch cyflwyno i gysyniadau allweddol y pynciau a gynigir yn eich Adran
  • Cyfle i brofi rhai o’r pynciau eraill a gynigir ar y rhaglen Blwyddyn Sylfaen

Dysgir trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau datblygu personol fydd yn rhoi’r hyder a’r profiad ichi ragori yn academaidd. Bydd eich tiwtor personol ac arweinydd y Flwyddyn Sylfaen yn eich helpu i bontio i Lefel 1.

Yr un yw’r cyllid a’r benthyciadau myfyrwyr sydd ar gael i chi ag ar gyfer israddedigion eraill, a gallwch wneud cais am le trwy UCAS yn yr un modd â gweddill ein graddau israddedig.

Nodir y gofynion mynediad isod, ond bydd pob ymgeisydd yn cael ei asesu’n unigol i wneud yn sicr eu bod yn iawn ar gyfer y cwrs a bod y cwrs yn iawn iddyn nhw.

Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio cwrs blwyddyn sylfaen hawl i ddefnyddio holl gyfleusterau’r campws, i ymuno â’r cymdeithasau a phob dim arall sydd gan gymuned myfyrwyr Aberystwyth i’w gynnig.

Gofynion Mynediad

Gofynion mynediad

 

Cwrs

Gofynion mynediad y Flwyddyn Sylfaen (wrth wneud cais am y tro cyntaf)

Daearyddiaeth, Daearyddiaeth Ffisegol, Daearyddiaeth Ddynol

48 UCAS

Cymdeithaseg

48 UCAS gyda D yn y dyniaethau

Gwyddor Daear Amgylcheddol

48 UCAS gyda D mewn pwnc gwyddonol

Gwyddor yr Amgylchedd

48 UCAS gyda D yng Ngwyddor yr Amgylchedd, Bioleg neu Ddaearyddiaeth

Seicoleg

48 UCAS gyda C neu fwy mewn TGAU Mathemateg

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

48 UCAS gyda D yn y Dyniaethau

Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol

48 UCAS gyda D yn y Dyniaethau

Hanes a Hanes Cymru

48 UCAS gyda D yn y Dyniaethau

Astudiaethau Theatr a Ffilm/Drama ac Astudiaethau Theatr

48 UCAS gyda D yn y Dyniaethau

Y Gyfraith, Troseddeg

48 UCAS gyda D yn y Dyniaethau

Addysg

 

 

48 UCAS gyda D yn y Dyniaethau

 

 

Rhaid i fyfyrwyr gael TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.