Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Myfyrwyr yn gweithio mas o labordy yn IBERS.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau, rhai ar gyfer ymgeiswyr israddedig, rhai ar gyfer ymgeiswyr uwchraddedig, a rhai sy’n agored i’r ddau grŵp.

Mae ein gwobrau israddedig yn cynnwys y gystadleuaeth Arholiad Mynediad, gwobrwyon am ganlyniadau rhagorol cyn dechrau yn y brifysgol, gwobrau pwnc-benodol, cefnogaeth i ymadawyr gofal, gofalwyr ifanc a myfyrwyr sydd wedi’u dieithrio, ac ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio’r cyfan neu ran o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyffredinol, mae’r gwobrau uwchraddedig yn dibynnu ar y pwnc, ar ba lefel y bu’r astudio a lle rydych yn byw – bydd ein cyfrifiannell ysgoloriaeth yn rhoi gwell syniad ichi o’r hyn a all fod ar gael i fodloni’ch amgylchiadau penodol chi.

Mae ysgoloriaethau am gyflawni ym maes chwaraeon neu gerddoriaeth ar agor i ymgeiswyr israddedig ac uwchraddedig.