Llety

Mae gennym amryw ddewisiadau a lleoliadau i'w cynnig fel y gallwch ddewis yr hyn sy'n addas i chi, ac mae'r rhan fwyaf o'r llety o fewn pellter cerdded i’r prif gampws.

Byw mewn llety prifysgol yw'r ffordd orau o gael y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol, ac mae’n gyfle i wneud ffrindiau newydd wrth ddod i arfer â byw oddi cartref.

Pam byw gyda ni?

Sicrwydd Llety

Rydym yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf*.

Aelodaeth am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon

Fel myfyriwr sy’n byw yn llety’r Brifysgol, byddwch yn cael aelodaeth Blatinwm am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, sy’n golygu bod gennych hawl heb gyfyngiad i ddefnyddio’r holl adnoddau yn ogystal â’r dosbarthiadau ffitrwydd a lles.

Amrywiaeth eang o ddewisiadau llety

Mae pob llety yn gymuned ag iddi ei nodweddion penodol ei hun, ac yn cynnig amgylchedd diogel lle gallwch gymdeithasu, astudio ac ymlacio. Mae ein dewisiadau llety yn cynnwys stiwdios, neuaddau hunanarlwyo neu arlwyo ac ystafelloedd en-suite neu fflatiau gydag adnoddau a rennir. Mae gennym hefyd lety penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n siaradwyr neu’n ddysgwyr Cymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o hydoedd trwydded sy'n addas ar gyfer gwahanol gyrsiau, ac mae ein holl lety o fewn pellter cerdded i’r adnoddau academaidd ac adnoddau’r campws.

Byw'n ddi-drafferth

Tra byddwch yn byw yn ein llety, nid oes angen poeni am gostau cyfnewidiol eich biliau, gan fod y ffioedd llety yn cynnwys y cyfleustodau, cysylltiad rhyngrwyd di-wifr a lefel uchel o yswiriant cynnwys personol. Gall ein preswylwyr fanteisio ar help a chymorth 24/7, gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio. O fewn cyrraedd hawdd i’n dewisiadau llety mae ein canolfannau dysgu 24/7, sy’n fannau agored wedi’u neilltuo ar gyfer gweithio ac astudio mewn grwpiau. Cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd, bydd y Tîm Llety yn eich croesawu i'ch cartref newydd a chymuned y campws.

Llety o ansawdd uchel

Rydym yn falch o fod wedi cael ein gosod ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Neuaddau a Llety Myfyrwyr yng ngwobrau WhatUni Student Choice Awards 2022. Mae ein Llety yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Prifysgolion y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr a Reolir gan Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU a sefydlwyd i ddiogelu eich hawliau i lety diogel ac o ansawdd da lle bynnag yr ydych yn astudio ac i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch amser yn byw yn ein llety.

*Os byddwch yn gwneud cais am lety erbyn 1 Medi 2024.

 

Gwybodaeth i Ymgeiswyr Israddedig

Mae myfyrwyr israddedig newydd yn cael sicrwydd o le mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol neu a reolir ganddi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar yr amod eich bod yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau priodol yn y flwyddyn mynediad:

  • Myfyrwyr israddedig: 1 Medi
  • Os ydych yn gwneud cais i astudio yn y Brifysgol drwy Glirio: 1 Medi

I fod yn gymwys ar gyfer sicrwydd o le mewn llety Prifysgol rhaid i chi hefyd ymateb i'ch cynnig o lety erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig Llety.

Er ein bod yn gwarantu lle mewn llety sy'n eiddo i'r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu darparu math penodol o lety, na lleoliad penodol.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr Uwchraddedig

Nodwch: Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfnodau trwydded sy'n addas i chi, ond byddwch yn ymwybodol mai'r cyfnod hwyaf y gallwn gynnig yw 50 wythnos.

*I fod yn gymwys am warant o le rhaid i chi sicrhau bod eich cais yn cael ei dderbyn erbyn 1 Medi yn y flwyddyn mynediad a’ch bod yn ymateb i’r cynnig o lety erbyn y dyddiad olaf a nodir yn y Cynnig Llety. Nodwch fod lle mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol neu a reolir ganddi yn cael ei warantu, ond nid y math penodol o ystafell neu leoliad.