Pam astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Prifysgol Aberystwyth, ar arfordir gorllewin Cymru, yw eich lle chi i astudio, anturio a thyfu. Mae Aberystwyth yn ddewis gwirioneddol wych.

Ers 1872, rydyn ni wedi magu enw da ledled y byd am ragoriaeth ein dysgu a'n hymchwil arloesol. Yn ogystal ag enw da am addysgu ac ymchwil rhagorol, ein nod yw cynnig profiad myfyrwyr diguro mewn lleoliad heb ei ail.

Felly, pam dewis Prifysgol Aberystwyth?

Mae sawl rheswm pam mai Aberystwyth yw’r lle i chi allu darganfod, dysgu a thyfu.

Ein pynciau

Yn Aberystwyth, rydyn ni’n cynnig rhaglen o gyrsiau a gynlluniwyd i roi cymaint o ddewis a hyblygrwydd â phosibl. Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sy'n gweithio ar ymchwil arloesol ar lefel fyd-eang, a bydd hyn yn eich cynorthwyo i feithrin sgiliau newydd a datrys problemau yn y byd go iawn.

Archwilio ein pynciau

Lleoliad trawiadol i fyw a dysgu ynddo

Mae'r fro o gwmpas Aberystwyth mor hardd. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n dirwedd brydferth o fryniau tirion, dyffrynnoedd, traethau a'r môr. Ac nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell, chwaith. Mae ein lleoliad yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae Aberystwyth yn dref fyfyrwyr groesawgar, gynhwysol a bywiog ac yn amgylchedd diogel i gymdeithasu ynddo.

Darllenwch ymhellach

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Yn Aberystwyth, cynigiwn ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael i roi cymorth ariannol i chi wrth astudio. Mae myfyrwyr yn gymwys i ennill mwy nag un dyfarniad sy'n golygu y gallech gael dros £18,000.

Mae ein hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau blaenllaw yn cynnwys:

  • Ysgoloriaethau Rhagoriaeth
  • Ysgoloriaethau Mynediad
  • Gwobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Ysgoloriaethau Cerdd
  • Ysgoloriaethau Chwaraeon.

Gweld yr holl ysgoloriaethau a bwrsariaethau

Astudio Dramor

Bydd myfyrwyr ar bron bob cynllun gradd yn cael cyfle i astudio neu weithio dramor. Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnwys blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys semester neu flwyddyn academaidd gyfan yn astudio yn un o'n prifysgolion partner neu'n cyflawni lleoliad profiad gwaith sy’n gysylltiedig â'ch gradd. Bydd ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn eich cynorthwyo i weld yr hyn sydd orau i chi.

Darganfod y byd yn Aberystwyth