Dysgu Gydol Oes

Myfyrwyr yn dysgu.

Dysgu ychwanegol

Cynigir cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn ychwanegol at eich gradd a gellir eu cymryd heb ymyrryd â'ch amserlen israddedig neu uwchraddedig. Mae Dysgu Gydol Oes yn darparu cyrsiau achrededig addysg uwch sydd wedi'u cynnwys yn eich cofnod myfyriwr academaidd.

Yn Aberystwyth, gallwch fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn i wella'ch sgiliau a datblygu diddordebau newydd a fydd yn eich gwneud yn fwy deniadol fyth i gyflogwyr ar ôl i chi orffen eich gradd, ac a fydd yn eich rhoi un cam ar y blaen i'r gystadleuaeth.

Y cyrsiau sydd ar gael yw:

  • Celf a Dylunio
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Ecoleg
  • Astudiaethau Hanes Natur
  • Hanes, Achau ac Archaeoleg
  • Ieithoedd: Arabeg, Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg, Groeg, Eidaleg, Japaneaidd, Rwsieg a Sbaeneg.
  • Datblygiad proffesiynol.

Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu uwchraddedig, mae ein cyrsiau yn cael eu cynnig i chi yn rhad ac am ddim