Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cryn dipyn o gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - un o’r uchaf yng Nghymru.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio cwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Pam astudio drwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae 99% o’r graddedigion a fu’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cyflogaeth neu mewn addysg bellach 6 mis ar ôl graddio, o’i gymharu â 91.8% nad oedd wedi astudio drwy’r Gymraeg (Higher Education Statistics Agency, 2018)
- Mae galw mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog
- Mae cyflogau gyrfaoedd dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd
- Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa
- Mae nifer o’n cyrsiau israddedig yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n werth hyd at £3,000
- Chwiliwch drwy ein cyrsiau cyfrwng Cymraeg