Newyddion

Hanes dewiniaeth yng Nghymru yn ysbrydoli nofel frawychus newydd
Mae nofel frawychus sydd wedi’i hysbrydoli gan hanes anghofiedig dewiniaeth yng Nghymru wedi’i chyhoeddi gan ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Dylai corff cynghorol iechyd newydd y byd gynnwys gwledydd incwm is – adroddiad
Mae angen i gorff newydd y Cenhedloedd Unedig fydd â'r dasg o ddarparu tystiolaeth i fynd i'r afael â chlefydau sy'n gwrthsefyll cyffuriau gynnwys gwledydd incwm is, yn ôl academydd o Aberystwyth.
Darllen erthygl
Hetiau duon, crochanau a ysgubau: tarddiad hanesyddol eiconograffeg gwrachod
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Mari Ellis Dunning yn trafod sut roedd menywod yng Nghymru'r cyfnod modern cynnar fel arfer yn gwisgo sgertiau hir, siolau gwlân mawr, a hetiau du tal. A allent fod wedi ysbrydoli stereoteipiau am y wrach?
Darllen erthygl
Darn allweddol o Grwydryn ExoMars yn cael ei anfon o Aberystwyth
Mae'r ymdrechion i chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth yn cymryd cam mawr ymlaen heddiw, wrth i offeryn allweddol ar gyfer taith ofod bwysig ddechrau ei daith o'r Brifysgol i’r Eidal i gael ei brofi.
Darllen erthygl
Uwchraddiad gwerth £750,000 gan y Brifysgol i gyfleusterau addysgu Cyfrifiadureg
Mae'r Brifysgol wedi agor mannau addysgu sydd newydd eu hailwampio yn yr Adran Gyfrifiadureg yn swyddogol, gan nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysg ddigidol.
Darllen erthygl
Astudio effaith hirdymor fepio ar iechyd yr ysgyfaint
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect gwerth £1.55m i ddarganfod risgiau a buddion hirdymor fepio ar iechyd ysgyfaint ysmygwyr.
Darllen erthygl
Penodi Athro Nyrsio er Anrhydedd Cyntaf yn Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi'r Athro Sandy Harding yn Athro Nyrsio Er Anrhydedd cyntaf.
Darllen erthygl
Dathlu 25 mlynedd o astudio hen ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth
Cynhelir cynhadledd i ddathlu dros 25 mlynedd o astudio hen ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.
Darllen erthygl
Canllaw newydd i daclo cam-drin pobl hŷn gyda thechnoleg
Mae canllaw newydd wedi’i lansio i helpu i fynd i’r afael â bygythiad cynyddol o gam-drinwyr domestig yn defnyddio technoleg, megis clychau drws clyfar a ffonau symudol, yn erbyn pobl hŷn.
Darllen erthygl
Dyfais AI i adfer lleferydd yn ennill gwobrau myfyrwyr
Myfyriwr a greodd ddyfais i helpu pobl ag amhariad lleferydd, ac un a ddechreuodd fusnes i dyfu te yn lleol oedd ymhlith enillwyr cystadleuaeth dechrau busnes myfyrwyr.
Darllen erthygl
Rwsia yn troi at fenywod Affricanaidd a milwyr Gogledd Corea i fynd i'r afael â'i phrinder gweithwyr amddiffyn
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn esbonio bod angen tua 400,000 yn fwy o weithwyr ar ddiwydiant amddiffyn Rwsia nag y mae'n eu cyflogi ar hyn o bryd.
Darllen erthygl
Partneriaeth ryngwladol newydd i hybu technolegau amaethyddol gwyrdd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi partneriaeth newydd gydag Academi Gwyddorau Amaethyddol Zhejiang i gryfhau ei gwaith mewn technolegau amaethyddol gwyrdd.
Darllen erthygl
Angen ailfeddwl gwerthuso natur i daclo’r argyfwng bioamrywiaeth – astudiaeth
Mae’r ffordd o feddwl economaidd hen ffasiwn yn arwain at golli bioamrywiaeth, yn ôl astudiaeth ryngwladol newydd a arweinir gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth, sy'n galw am newid sylfaenol yn y ffordd y mae natur yn cael ei gwerthuso.
Darllen erthygl
Astudiaeth o rewlifoedd yn yr Andes yn taflu goleuni ar effaith yr hinsawdd yn y dyfodol
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod rhewlifoedd yr Andes wedi tyfu yn ystod cyfnod acíwt o newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.
Darllen erthygl
Enwi Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i henwi yn Brifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd ac wedi esgyn yn nhablau Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2026.
Darllen erthygl
Sut mae pryfyn yn gweld y byd – a pham y gall deall ei weledigaeth helpu i atal clefydau
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Roger Santer o'n Hadran Gwyddorau Bywyd yn trafod sut mae pryfed yn gweld y byd yn wahanol i fodau dynol, a sut y gall deall hyn helpu i atal clefydau.
Darllen erthygl
Arbenigwyr twbercwlosis buchol yn trafod strategaeth frechu
Heddiw (dydd Mercher 17 Medi), mae gwyddonwyr, milfeddygon a llunwyr polisi blaengar o bedwar ban Prydain wedi cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod strategaethau brechu at dwbercwlosis buchol.
Darllen erthygl
Sut mae asiantaethau deallusrwydd enwog Israel wedi dibynnu ar gymorth gan eu ffrindiau erioed
Mewn erthygl yn The Conversation, Mae Dr Aviva Guttmann o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn esbonio sut mae ysbïwyr Israel wedi ennill enw haeddiannol am ddyfeisgarwch a chreulondeb. Nid yw mor hysbys eu bod yn aml yn dibynnu ar gudd-wybodaeth gwledydd eraill.
Darllen erthygl