MBA Gweithredol a Phroffesiynol

Cynlluniwyd rhaglenni MBA Gweithredol a Phroffesiynol Ysgol Fusnes Aberystwyth i gyflymu taith eich gyrfa drwy gyfnod o astudio hyblyg gyda ffocws, a datblygu personol.

Mae rhaglenni Meistr Gweithredol Aberystwyth sy’n cynnwys yr MBA Gweithredol Byd-eang (EMBA) a’r Meistr Rheoli Gweithredol (EMMgt) wedi’u cynllunio ar gyfer sicrhau bod gan arweinwyr busnes profiadol y sgiliau arwain a’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflenwi newid sylweddol sy’n para yn eu sefydliadau.

Mae'r MBA Gweithredol Byd-eang (EMBA) a'r Meistr Rheoli Gweithredol (EMMgt) ar gael fel cwrs rhan-amser neu ddysgu o bell. Gallwch ddechrau ym mis Ionawr, mis Ebrill neu fis Medi. Hyd y ddau lwybr astudio yw 18-36 mis.

Mae'r rhaglenni MBA Proffesiynol ar gael i ddechrau ym mis Ionawr neu fis Medi. Mae'r rhaglenni MBA yn gyrsiau amser llawn sy'n para 12 mis

 

Meistr Gweithredol

Mae rhaglenni Meistr Gweithredol Aberystwyth sy’n cynnwys yr MBA Gweithredol Byd-eang (EMBA) a’r Meistr Rheoli Gweithredol (EMMgt) wedi’u cynllunio ar gyfer sicrhau bod gan arweinwyr busnes profiadol y sgiliau arwain a’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflenwi newid sylweddol sy’n para yn eu sefydliadau.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol i ymgeiswyr sy’n arweinwyr strategol ar hyn o bryd gyda chyfrifoldeb rheoli lefel uwch, a all gynnwys cyfrifoldebau llywodraethu/cyfarwyddwr ffurfiol. Gallai cyfrifoldebau’r ymgeiswyr gynnwys gosod strategaeth, cyfeiriad a gweledigaeth, gan gynnig ymdeimlad clir o ddiben a sbarduno bwriad strategol.

Nod y rhaglenni arweinyddiaeth newid uchel eu heffaith hyn i arweinwyr busnes yw cyflenwi newid sy’n para trwy ddysgu gweithredol â ffocws a chyflwyno strategaethau arweinyddiaeth newid yn eich sefydliadau mewn amser real.

Bydd ein tîm addysgu profiadol yn eich cysylltu ag ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol newidiol yr 21ain ganrif sy’n effeithio ar wahanol fusnesau a sefydliadau. Cyflwynir yr addysgu gan academyddion rheoli blaenllaw sydd ag enw da byd-eang am ymchwil, ac ymarferwyr busnes rhyngwladol fydd yn ychwanegu dyfnder i gyd-destunau byd real.

Y cyrsiau: 

Teitl y cwrsCod y cwrsModd astudioDyddiad dechrau 
EMBA RheolaethN1835Rhan-amserIonawr
Ebrill
Medi 
EMBA RheolaethN1835DDysgu o bellIonawr
Ebrill
Medi 
EMMgt RheolaethN1836 Rhan-amser Ionawr
Ebrill
Medi 
EMMgt RheolaethN1836DDysgu o bellIonawr
Ebrill
Medi 

 

MBA Proffesiynol Aberystwyth 

Mae rhaglenni MBA Proffesiynol Aberystwyth wedi’u cynllunio ar gyfer yr arweinydd busnes proffesiynol sy’n adeiladu gyrfa yn y sector preifat, cyhoeddus neu’r trydydd sector. Mae’r rhaglenni’n addas hefyd ar gyfer rheolwyr uchelgeisiol sy’n ceisio’u gwahaniaethu eu hunain trwy geisio swyddogaeth reoli uwch mewn busnesau.

Er mwyn cyflenwi datblygiad proffesiynol â ffocws rydym ni’n sicrhau bod gan yr holl ymgeiswyr brofiad busnes perthnasol, ac i sicrhau eich bod yn graddio gyda gwell sgiliau a galluoedd byddwch hefyd yn cael cyfle am fwy o brofiad busnes trwy leoliad gwaith/interniaeth wrth gwblhau eich cwrs.

Un o’n cryfderau craidd yw’r ffordd rydym ni’n creu partneriaeth ddysgu gyda chi. Bydd ein tîm addysgu profiadol yn eich cysylltu ag ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol newidiol yr 21ain ganrif.

Mae strwythur dysgu ac addysgu ein cyrsiau MBA Proffesiynol wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn gallu ymateb, deall a chymhwyso ymagweddau a fframweithiau damcaniaethol i sefyllfaoedd y byd real.

Trwy ddysgu gan ymarferwyr cyfadran a busnes rhyngwladol byddwch yn ychwanegu dyfnder damcaniaeth i’ch cyd-destun byd real.

Y cyrsiau:

Teitl y cwrsCod y cwrsModd astudioDyddiad dechrau
 N1841 Llawn amserIonawr
Medi 
MBA Marchnata RhyngwladolN1840Llawn amserIonawr
Medi  
MBA mewn Gweinyddiaeth FusnesN1834Llawn amser Ionawr
Medi  
MBA Rheoli Cadwyn Gyflenwi Fyd-eangN1837Llawn amser Ionawr
Medi  
MBA Rheoli Peirianneg N1838Llawn amser Ionawr
Medi  
MBA Rheoli ProsiectauN1839Llawn amser Ionawr
Medi