Bywyd Myfyrwyr: Byw ac Astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Surfers on Cardigan Bay.

Yn ogystal ag addysg ragorol, mae Aberystwyth hefyd yn cynnig ansawdd bywyd heb ei ail.

Mae bywyd cymdeithasol bywiog yn Aberystwyth. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig dros 100 o glybiau a chymdeithasau, o ganŵio, i gemau cyfrifiadurol, i gystadlaethau cyfreitha a theatr gerdd. Mae campws Penglais hefyd yn gartref i Ganolfan Gelfyddydau fwyaf Cymru lle ceir sinema boutique, theatr, a lleoliad cerddoriaeth fyw yn ogystal ag arddangosfeydd, dosbarthiadau, caffis a bariau.

Bydd popeth sydd ei angen arnoch o fewn cyrraedd hwylus ar gampws Prifysgol Aberystwyth, ac mae’r gwasanaethau a’r cyfleusterau pwysicaf wedi’u lleoli yng nghanol y campws. Mae’r campws hefyd o fewn pellter cerdded o dref a phromenâd enwog Aberystwyth.

Ar y campws ceir llety myfyrwyr, bwytai a chaffis, Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau dysgu ac astudio, gan gynnwys dwy lyfrgell. Yn ogystal, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (sy’n llyfrgell hawlfraint) y drws nesaf i’r campws.

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd ein hamgylchfyd cynhwysol a diogel yn rhoi’r cyfle ichi roi cynnig ar bethau gwahanol, gwneud ffrindiau newydd ond, yn bwysicach oll, byddwch yn rhydd i fod yn chi eich hun.