Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA)

Clwb rwgbi merched y Geltaidd

Os hoffech fyw ac/neu astudio yn Gymraeg yma yn Aberystwyth, chewch chi ddim profiad cyflawn o’r gymuned glos sydd yma heb ymuno ag UMCA neu’r Geltaidd, neu’r ddau!

UMCA yw’r undeb gyntaf o’i bath yng Nghymru, ac mae ganddi brofiad helaeth o ymgyrchu dros fuddiannau myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol a gwarchod
eu hawliau. Erbyn heddiw, mae’n fudiad dylanwadol iawn sydd â llais a chynrychiolaeth ar rai o brif bwyllgorau’r Brifysgol.

Gweithgareddau

Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg eraill poblogaidd megis y Geltaidd (prif gymdeithas chwaraeon Gymraeg Prifysgol Aberystwyth), Plaid Cymru Ifanc, Yr Heriwr ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau canu, llefaru, dawnsio neu glocsio.

Trefnir nifer o weithgareddau gan UMCA ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Llywydd a Swyddog Amgen Pwyllgor Gwaith UMCA yn cydweithio’n agos â’r Coleg er mwyn sicrhau bod gennym amryw o weithgareddau sydd at ddant pawb.

UMCA a’r Gymraeg

Nid yn unig ar gyfer siaradwyr Cymraeg y mae UMCA. Cynigia UMCA hefyd wersi Cymraeg am ddim i fyfyrwyr ac wrth ymuno ag UMCA gall yr aelodau ddysgu am iaith a diwylliant Cymru.

Llais y myfyrwyr

Etholir Llywydd UMCA gan gorff cyfan Myfyrwyr y Brifysgol yn etholiadau blynyddol yr Undeb, ac mae’n swydd sabothol amser llawn. Mae gan y Llywydd bwyllgor gwaith gweithgar iawn y tu cefn iddo/iddi ynghyd â Bwrdd Ymgynghorol i graffu ar weithgaredd UMCA.

Cefnogaeth

Mae UMCA yn cynorthwyo myfyrwyr i wneud yn fawr o’u hamser yn Aberystwyth ac yn cynnig cymorth gydag unrhyw broblem sy’n poeni’r aelodau. Mae UMCA yn ychwanegu at brofiad myfyrwyr o fyw trwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth.

Llwyddiannau Eisteddfodol

Bob blwyddyn mae myfyrwyr o Aberystwyth yn amlwg ar lwyfan eisteddfodau, yn enwedig Eisteddfod yr Urdd. Mae ein myfyrwyr yn aml yn dod i’r brig naill ai fel unigolion neu fel grwpiau mewn meysydd fel llenyddiaeth, canu, dawnsio a pherfformio.

Wythnos y Glas

Pan gyrhaeddwch y Brifysgol ym mis Medi, cewch brofi Wythnos y Glas - wythnos gyfan o hwyl a chymdeithasu a drefnir gan UMCA. Bydd myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn aml yn cael eu ‘paru’ â myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar rai o’r gweithgareddau, sy’n golygu y byddwch yn dod i adnabod trawsdoriad eang o fyfyrwyr erbyn diwedd yr wythnos gyntaf!