Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyriwr a bod yn barod am unrhyw beth.

Wedi’i arwain gan fyfyrwyr ac â chymorth gan dîm o staff, mae Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael profiad myfyriwr anhygoel, yn hapus, iach ac a’r grym i newid pethau, gyda ffrindiau oes a dyfodol disglair.

Rydym yn ymroddedig i:

  • baratoi myfyrwyr ar gyfer eu hantur nesaf
  • rhoi’r gair olaf i fyfyrwyr bob amser
  • helpu myfyrwyr i fod mor hapus ac iach â phosibl
  • tyfu ynghyd â’r myfyrwyr fel teulu Aber.

Caiff yr addewidion hyn eu cyflawni trwy roi i fyfyrwyr amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd, gan gynnwys:

  • cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau ac adeiladu cymunedau
  • 100 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau – Cymdeithas Myfyrwyr Uwchraddedig a chymdeithasau academaidd yn eu plith – a’r cyfle i ddechrau eich grŵp eich hun
  • cefnogaeth, hyfforddiant a gwaith – gyda thros 300 o Gynrychiolwyr Academaidd yn cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr ar lefel cwrs
  • cyngor cyfrinachol, diduedd a chyfeillgar yn rhad ac am ddim
  • llais cynrychioladol i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystywyth
  • cyfleoedd i ymgyrchu ar faterion sydd o bwys i chi
  • mannau astudio, a lleoedd i gyfarfod a chymdeithasu.

Mae tîm yr Undeb hefyd yn cynnig cymorth a chynrychiolaeth annibynnol, boed hynny’n ymwneud â materion academaidd, lles neu arian, i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol yn y Brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch yn uniongyrchol i wefan Undeb y Myfyrwyr, neu defnyddiwch y dolenni isod i ymweld â rhannau penodol o’r wefan honno.