Llety

Byw mewn llety prifysgol yw'r ffordd orau o gael y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol, ac mae’n gyfle i wneud ffrindiau newydd wrth ddod i arfer â byw oddi cartref.

Rydym yn sicrhau llety i ymgeiswyr Clirio sydd yn gwneud cais erbyn ein dyddiad cau, sef y 1af o Fedi 2024. Mae gennym amryw o ddewisiadau a lleoliadau sy’n cynnig gwerth am arian ardderchog, fel y gallwch ddewis yr hyn sy'n addas i chi. Mae'r rhan fwyaf o'r llety o fewn pellter cerdded i’r prif gampws.

Pam byw gyda ni?

Aelodaeth am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon

Fel myfyriwr sy’n byw yn llety’r Brifysgol, byddwch yn cael aelodaeth Blatinwm am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, sy’n golygu bod gennych hawl heb gyfyngiad i ddefnyddio’r holl adnoddau yn ogystal â’r dosbarthiadau ffitrwydd a lles.

Amrywiaeth eang o ddewisiadau llety

Mae pob llety yn gymuned ag iddi ei nodweddion penodol ei hun, ac yn cynnig amgylchedd diogel lle gallwch gymdeithasu, astudio ac ymlacio. Mae ein dewisiadau llety yn cynnwys stiwdios, neuaddau hunanarlwyo neu arlwyo ac ystafelloedd en-suite neu fflatiau gydag adnoddau a rennir. Mae gennym hefyd lety penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n siaradwyr neu’n ddysgwyr Cymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o hydoedd trwydded sy'n addas ar gyfer gwahanol gyrsiau, ac mae ein holl lety o fewn pellter cerdded i’r adnoddau academaidd ac adnoddau’r campws.

Byw'n ddi-drafferth

Tra byddwch yn byw yn ein llety, nid oes angen poeni am gostau cyfnewidiol eich biliau, gan fod y ffioedd llety yn cynnwys y cyfleustodau, cysylltiad rhyngrwyd di-wifr a lefel uchel o yswiriant cynnwys personol. Gall ein preswylwyr fanteisio ar help a chymorth 24/7, gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio. O fewn cyrraedd hawdd i’n dewisiadau llety mae ein canolfannau dysgu 24/7, sy’n fannau agored wedi’u neilltuo ar gyfer gweithio ac astudio mewn grwpiau. Cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd, bydd y Tîm Llety yn eich croesawu i'ch cartref newydd a chymuned y campws.

Llety o ansawdd uchel

Rydym yn falch o fod yn cynnig llety myfyrwyr fforddiadwy ac rydym wedi ein gosod ymhlith y 5 Dinas Rataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr yn ôl Student Crowd 2024. Mae ein Llety yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Prifysgolion y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr a Reolir gan Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU a sefydlwyd i ddiogelu eich hawliau i lety diogel ac o ansawdd da lle bynnag yr ydych yn astudio ac i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch amser yn byw yn ein llety.