Aberystwyth - Ein Lleoliad

Llun awyr o gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

O gampws Penglais dyw hi’n ddim o dro i lawr y rhiw i dref lan môr hanesyddol Aberystwyth, sy’n aml yn cael ei galw’n brifddinas ddiwylliannol Cymru.

Cewch ddewis o'r tri thraeth hardd yma: Traeth y Gogledd (sydd wedi ennill y faner las), Traeth y De, a Thraeth Tan-y-bwlch, i chi gael tynnu'ch esgidiau, teimlo'r tywod dan draed, ac os ydych chi'n lwcus, efallai y gwelwch y dolffiniaid. Ac yn yr haf, gallwch fwynhau gwylio'r machlud bendigedig o flaen tân bach neu farbeciw.

Mae'r adeiladau, sy'n glytwaith o bensaernïaeth Fictoraidd llawn lliw a chymeriad, yn cydweddu â'r dirwedd, yn edrych dros ehangder y prom 2km ei hyd. Yma mae myfyrwyr, pobl leol ac ymwelwyr yn cymysgu â gilydd yn cerdded, loncian neu feicio heibio.

Yn ôl yr hen draddodiad, mae myfyrwyr ac ymwelwyr yn 'cicio'r bar' ymhen gogleddol y prom wrth odre'r Graig Glais - neu Gonsti - wrth fynd am dro yn yr awyr iach ar lan y môr.

Mae digon i'w wneud o gwmpas y dre a'r tu hwnt. O fynd am dro o gwmpas y siopau bychain niferus a siopau'r stryd fawr, y caffis a'r bwytai - i archwilio'r atyniadau lleol, sef y Llyfrgell Genedlaethol, Rheilffordd y Graig, y Prom a'r Bandstand, yr Hen Goleg, Adfeilion y Castell, yr Harbwr a mwy.

Y tu allan i Aberystwyth mae digonedd o leoliadau awyr agored gwych fel Blwch Nant yr Arian a hen ystad yr Hafod lle y cewch grwydro'r coedwigoedd, dringo'r bryniau neu feicio i lawr llethrau'r llwybrau beiciau mynydd. Os ydych chi wrth eich bodd â'r triathlon, syrffio, ceiacio neu ddringo mynyddoedd - ni fydd byth angen mynd ymhell i wneud yn fawr o'ch amser hamdden.

Wrth gwrs, mae llawer o chwaraeon a chymdeithasau eraill yma i'r myfyrwyr eu mwynhau. Gyda mwy na 50 o glybiau chwaraeon cystadleuol ac amrywiaeth eang o fwy na 100 o gymdeithasau, ynghyd â lleoliad unigryw Aberystwyth, dyma'r cefndir delfrydol i rannu diddordebau, tyfu mewn cymuned a gwneud ffrindiau am oes.

Aberystwyth oedd y dref gyntaf yng Nghymru i ennill y Faner Borffor uchel ei bri am gynnig bywyd nos croesawgar a diogel. Mae'r bywyd nos bywiog hefyd yn darparu adloniant gwych gyda Chanolfan y Celfyddydau, Undeb y Myfyrwyr, y Pier, a dewis eang o fariau a thafarndai (52 i gyd!), clybiau nos a mwy - i gyd yn agos at ei gilydd. Gallwch fwynhau noson o gerddoriaeth fyw, sioe comedïwr, noson allan gyda ffrindiau, a mwy.