Dewiswch 'Ffurflen Gais' a dilynwch y camau hyn:
1. Eich Manylion -
Gofynnir i Fyfyrwyr Newydd ddarparu cyfeiriad e-bost sy'n gweithio. Bydd y cyfeiriad hwn yn cael ei ddefnyddio i anfon gohebiaeth atoch tan ichi roi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith. Rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio cyfeiriad e-bost ysgol neu goleg gan na fydd efallai'n gweithio ar ôl ichi adael.
Cyfri TG - Ar ôl i'ch lle astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth gael ei gadarnhau, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon cyfarwyddiadau atoch er mwyn ichi roi eich cyfri TG ar waith o fis Gorffennaf ymlaen.
Dylech roi eich cyfri TG ar waith cyn gynted ag y cewch eich gwahodd i wneud hynny, a hynny fel na fydd oedi wrth i'r Brifysgol drefnu llety ar eich cyfer.
Ar ôl ichi roi eich cyfri TG ar waith, bydd pob gohebiaeth yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost hwn, felly mae'n bwysig eich bod yn agor eich e-byst yn rheolaidd.
2. Opsiynau Llety -
Bydd gofyn ichi flaenoriaethu'r opsiynau llety sydd ar gael ichi yn ôl y math o ystafell a'r lleoliad.
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein hopsiynau llety i'ch helpu chi i benderfynu.
3. Eich Dewis Llety -
Byddwn yn eich holi a ydych yn dymuno byw â myfyrwyr o'r un rhyw â chi.
4. Hygyrchedd, Anableddau ac Iechyd -
I'n helpu ni i ddod o hyd i’r llety mwyaf priodol ichi, byddwn yn eich holi chi ynglŷn ag unrhyw gyflwr/gyflyrau meddygol neu ofynion penodol o ran cael mynediad i adeiladau. Er enghraifft, a yw unrhyw rai o'r pethau canlynol yn berthnasol i chi: cyflwr/cyflyrau corfforol neu feddyliol, gofynion ffydd, gofynion o ran eich hunaniaeth rhywedd neu a oes angen help arnoch chi i adael yr adeilad mewn argyfwng?
Os ateboch chi 'ydy/oes' i unrhyw un o’r rhain, bydd gofyn ichi ddarparu rhagor o wybodaeth er mwyn i'r Tîm Gwasanaethau Hygyrchedd asesu eich cais a gwneud argymhellion i Dîm y Swyddfa Lety. Heb dystiolaeth briodol, gallai fod oedi wrth i'r Brifysgol brosesu eich cais. Gallai hynny olygu na fydd y llety o'ch dewis ar gael mwyach.
5. Adolygu a Chyflwyno -
Cewch gyfle i adolygu eich cais a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl fanylion ar eich ffurflen gais yn gywir, dewiswch 'Cyflwyno Cais'.
Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law.