Myfyrwyr Newydd

Students walking along the prom, with 'Gwarant o Llety i Fyfyrwyr y Flwyddyn 1af' logo.

Gwarant o Lety’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn Gyntaf!

Bydd y broses hunan-ddyrannu ar gyfer llety’r Brifysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25 yn agor ar y 18fed o Ebrill. Gallwch gofrestru ar y Porth Llety o’r 3ydd o Ebrill ymlaen.

Sut i wneud cais

Byw Gyda Ni Caru Bywyd!

Yn Aberystwyth, rydym yn falch o'r gymuned fywiog y mae ein myfyrwyr yn ei mwynhau yn ein neuaddau. Rydym n cynnig amrywiaeth o steiliau, cyllidebau a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i'r ardal sy'n addas ar eich cyfer chi, gyda'r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith cerdded fer i'r campws - ac Aelodaeth Blatinwm o’r Ganolfan Chwaraeon yn RHAD AC AM DDIM ar gyfer eich iechyd a’ch lles.

*I fod yn gymwys am le wedi’i warantu, mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais yn dod i law erbyn y dyddiadau cau yn y flwyddyn mynediad a gyhoeddwyd, a’u bod yn ymateb i’r cynnig o lety erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig o Lety. Sylwer, er ein bod yn gwarantu lle mewn Llety sy'n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu darparu math penodol o lety, na lleoliad penodol.

*Gosodir telerau ac amodau - ewch i'n Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.

Dewisiadau Llety

P'un ai a ydych yn dymuno ystafell en-suite neu ystafell safonol gyda chyfleusterau ystafell ymolchi a rennir, cyfleusterau arlwyo neu hunan-arlwyo, mae gennym amrywiaeth o opsiynau ar gyfer eich cyllideb a'ch dewisiadau - gweler ein ffioedd llety.

I ddarganfod pa lety sydd ar gael i chi, pam ddim cael golwg ar ein Opsiynau Llety a Chymharu ein Llety.

Am wybodaeth fwy penodol, dewiswch yr opsiwn addas isod: