Cyfarfodydd a digwyddiadau rhithiol

Mae'r opsiynau canlynol ar gyfer cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau rhithiol:

Timau Microsoft

Mae Timau Microsoft yn rhan o gyfres o raglenni Office365.

Mae'n cynnig offer ar gyfer gweithio ar y cyd, er engraifft:

  • Sgwrs grŵp
  • Cyfarfodydd fideo
  • Rhannu ffeiliau
  • Galwadau grŵp

Mae Timau Microsoft ar gael i bob aelod o staff a myfyrwyr PA sydd â chyfrif ebost PA, a gellir ei gyrchu trwy ap symudol, ap bwrdd gwaith neu borwr gwe.

Mae Timau Microsoft  yn ddelfrydol ar gyfer gweithio gyda grwpiau bach o bobl ar brosiectau tymor byr mewn amgylchedd cyflym ac anffurfiol.  

Gwelir rhagor o wybodaeth ar sut i ddefnyddio Timau Microsoft yn ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Dimau Microsoft ac ein Hyfforddiant ac arweiniad Timau Microsoft

 

Digwyddiadau Byw Microsoft Teams

Mae digwyddiadau byw Teams yn galluogi defnyddwyr i ddarlledu fideo a chyfarfodydd i gynulleidfa lawer mwy (hyd at 10,000 o fynychwyr) na Microsoft Teams ac mae'n darparu'r nodweddion ar gyfer rheoli cynnwys darlledu’n well. 

Fe'i cynlluniwyd i gael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau mawr lle mae'r mynychwyr yn gwylio ac yn gwrando, gyda’u camerâu a'u meicroffonau wedi’u diffodd yn awtomatig. Gall mynychwyr bostio cwestiynau (yn ddienw os dymunant) trwy'r nodwedd sgwrsio.

Mae'n darparu nodwedd i gael sawl cyflwynydd, gyda rhywun â rôl cynhyrchwr yn gallu dewis pa gyflwynydd sy'n fyw ar y sgrin ar unrhyw adeg. Gall cyflwynwyr hefyd gymedroli'r cwestiynau a'r atebion.

Os hoffech gynnal digwyddiad byw ar Microsoft Teams cysylltwch â gg@aber.ac.uk am drwydded