Noder:

Dydd Sadwrn 11 Mawrth 2023 - Caiff y Weithfan ei defnyddio fel man cyfarfod a chyfarch ar gyfer diwrnod Agored y Brifysgol.
Bydd yn parhau'n agored i bob defnyddiwr ond fe'ch cynghorir ei bod efallai'n brysurach ac yn fwy swnllyd na'r arfer.

Y Weithfan

Lle i fyfyrwyr astudio sydd ar agor 24 awr y dydd yng nghanol tref Aberystwyth. Mae yno gyfrifiaduron, peiriannau argraffu, WiFi, ac ystafell astudio i grwpiau y gellir eu harchebu:

Lleoliad

Oriau agor

  • Ar agor 24/7 trwy gyfrwng cerdyn Aber i fyfyrwyr a staff presennol.
    Ar ôl 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau ceir mynediad drwy'r drws sy'n wynebu'r safle tacsis Gall unrhyw un sydd â gofynion hygyrchedd gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr i drefnu defnyddio’r fynedfa hygyrch bob amser.
  • Dim angen archebu (heblaw am yr ystafell astudio i grwpiau / cyfarfod)

Hygyrchedd

  • Mae'r fynedfa o gyntedd yr orsaf yn hygyrch. Ar ôl 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau mae mynediad drwy’r drws hwn wedi’i gyfyngu i’r rhai sydd wedi cofrestru fel rhai sydd angen mynediad drws hygyrch gyda Gwasanaethau Myfyrwyr.
  • Mae yno 2 ddesg astudio y gellir eu haddasu
  • Adnoddau toiled hygyrch
  • Mae gan y Larwm Tân ddangosyddion gweledol a sain