Recordio Darlithoedd, Cyflwyniadau a Digwyddiadau

Mae holl staff PA yn gallu gwneud recordiadau o'u darlithoedd, cyflwyniadau ac ati gan ddefnyddio Panopto; Mae cymorth ar gael i ddechrau arni gyda Panopto.


Mae Panopto yn caniatáu i chi wneud recordiad o ddigwyddiad megis darlith ac yn recordio unrhyw sleidiau PowerPoint, neu gyfryngau eraill a ddangosir ar y sgrin (er enghraifft, tudalennau Gwe). Mae'r recordiad gorffenedig yn cydamseru'r wybodaeth o'r sgrin a'r sain, gan alluogi gwylwyr i weld sleidiau’r cyflwyniad a chlywed y ddarlith ar yr un pryd. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr wylio rhannau o'r ddarlith fesul sleid neu chwilio am eiriau allweddol yn y sleidiau eu hunain.


Mae Panopto wedi’i osod ar yr holl gyfrifiaduron addysgu ym mhob ystafell addysgu ar yr amserlen ganolog. Mae gan yr holl ystafelloedd hyn feicroffonau i recordio'r sain ac, yn ogystal, mae gan nifer o ystafelloedd gyfleusterau ar gyfer recordio fideo.


Gellir lawrlwytho a gosod meddalwedd Panopto hefyd ar beiriannau unigol, gan alluogi staff i wneud recordiadau o'u swyddfeydd eu hunain, yn ogystal â recordio darlithoedd a chyflwyniadau wedi'u trefnu'n ffurfiol. Gellir dod o hyd i wybodaeth am osod y feddalwedd ar wefan Cwestiynau Cyffredin GG.


Gellir cyflwyno'r recordiadau trwy Blackboard, a rheolir mynediad at ddeunydd drwy'r safleoedd modiwlau Blackboard sydd eisoes yn bodoli. (Sut mae gwneud hynny?) Fel arall, gellir sicrhau bod recordiadau a rennir yn gyhoeddus ar gael yn allanol trwy ddolenni ar wefannau ac ati.


Gall staff y Gwasanaethau Gwybodaeth ddarparu cyngor a chymorth ar amrywiaeth o agweddau sy'n ymwneud â Panopto:

  • Gosod, ffurfweddu a defnydd sylfaenol o’r feddalwedd.  Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o'r wybodaeth hon ar wefan Cwestiynau Cyffredin GG. Am gefnogaeth ychwanegol, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk
  • Cyflwyniadau a hyfforddiant adrannol. Mae staff o'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn hapus i ddarparu cyflwyniadau sylfaenol i Panopto ar gyfer adrannau neu grwpiau bach. Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i drafod eich gofynion.
  • Gwella addysgu a dysgu trwy recordiadau sain a fideo. Gall staff Cymorth E-ddysgu gynnig cyngor ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud ag integreiddio recordiadau i ddysgu ac addysgu. Yn rhan o'r cymorth hwn, cynigir cwrs ar recordio darlithoedd drwy'r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch is-alto@aber.ac.uk
  • Gellir dod o hyd i ganllaw arfer da ar gyfer integreiddio darlithoedd a recordiwyd i’r addysgu yma
  • Rhoi gwybod am ddiffygion. Os ydych chi'n profi unrhyw broblemau gyda'r feddalwedd recordio neu'r caledwedd sydd wedi'i osod mewn ystafelloedd (meicroffonau ac ati), cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth

Yn ogystal ag ymdrin â'ch ymholiadau, rydym yn hapus i dderbyn unrhyw awgrymiadau ac adborth gan ddefnyddwyr Panopto. Mae eich adborth yn ein helpu i wella'r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig.