Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd. O gasglu barn i roi cyfle i gyfranogwyr ofyn ac ateb cwestiynau, gellir defnyddio Vevox ar wahanol ddyfeisiau a’r unig beth sydd ei angen i gymryd rhan yw dyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd.

Gallwch ddechrau defnyddio Vevox drwy fewngofnodi i http://aberystwyth.vevox.com/ gyda’ch Enw Defnyddiwr a’ch Cyfrinair Aberystwyth.

Gellir defnyddio Vevox gyda llawer o raglenni cyfoes megis PowerPoint a Microsoft Teams.

Gweler ein hadnoddau isod: