Nifer ymgeiswyr ysgoloriaeth ar ei uchaf
31 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweld cynnydd arall yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer eu harholiadau mynediad a gynhaliwyd heddiw (dydd Mawrth 31 Ionawr, 2016).
ApAber yn helpu rhoi trefn ar fywyd coleg
31 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio ap dwyieithog newydd i'w gwneud yn haws i fyfyrwyr gynllunio eu diwrnod ac sy'n dwyn ynghyd ar un sgrin amrywiaeth o wasanaethau sy'n gysylltiedig gydag dysgu ac astudio.
Gweithdai cerdd i fandiau lleol
27 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth a Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi dod at ei gilydd i gefnogi rhai o fandiau Cymraeg yr ardal gyda gweithdai cerdd arbennig yn yr Hen Goleg.
Brexit: bywyd tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
27 Ionawr 2017
Gyda dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys yn dod â Brexit gam yn nes, bydd dau arbenigwr ar oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud cyflwyniadau hynod amserol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Canfod cariad ym Mhrifysgol Aberystwyth
25 Ionawr 2017
Wrth i Gymru ddathlu Dydd Santes Dwynwen (25 Ionawr), mae Prifysgol Aberystwyth yn chwilio am straeon rhamantus gan gyn fyfyrwyr am gyplau a gyfarfu ar y campws, a lle mae cariad wedi blodeuo yn y ddarlithfa.
Astudiaeth i gamdrin yr henoed yn cael ei lansio yng Nghaerdydd
25 Ionawr 2017
Mae prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar gamdrin pobl hŷn yn cynnal ei gyfarfod lansio yng Nghaerdydd heddiw, Dydd Mercher 25 Ionawr 2017.
Cynllun doethuriaeth newydd i bobl broffesiynol sy’n gweithio
24 Ionawr 2017
Mae grŵp o 16 o fyfyrwyr o'r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) yn Aberystwyth yr wythnos hon ar gyfer dechrau rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol sydd newydd gael ei hail-lansio gan y Brifysgol.
Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymweld â Siapan
24 Ionawr 2017
Bydd cysylltiadau hanesyddol rhwng Aberystwyth a thref Yosano yn Siapan cael eu hatgyfnerthu’r wythnos hon pan fydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio yno am ymweliad un ar ddeg niwrnod.
Microbau’n creu eu cilfach
23 Ionawr 2017
Ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda’r Awdurdod Datblygu Bwyd ac Amaethyddiaeth yn Iwerddon (Teagasc) i ddatblygu ffordd newydd o weld sut mae gwahanol fathau o ficrobau’n gallu goroesi wrth iddynt gystadlu am adnoddau yn yr un amgylchedd.
Casglu’r samplau cyntaf yn Antarctica
20 Ionawr 2017
Mae'r Athro Neil Glasser, sydd allan yn Antarctica ers dechrau mis Ionawr fel rhan o astudiaeth ryngwladol i effeithiau newid yn yr hinsawdd, wedi postio'i flog cyntaf ar ei waith yno.
Becsit a Chymru: Y Cwestiynau Allweddol
20 Ionawr 2017
Wythnos wedi cyhoeddiad y Prif Weinidog Theresa May y bydd y DU yn gadael y farchnad Ewropeaidd sengl, mae gwahoddiad i’r cyhoedd i drafodaeth arbennig ar beth allai Brecsit ei olygu mewn gwirionedd i bobl a chymunedau canolbarth Cymru.
Penodi academydd o Aberystwyth yn Is-Gadeirydd UNESCO yn y DU
20 Ionawr 2017
Mae’r Athro Colin McInnes, arbenigwr blaenllaw ar iechyd byd-eang a chysylltiadau rhyngwladol, wedi cael ei benodi yn Is-Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (UKNC) ar gyfer UNESCO.
Dangos seremoni urddo Arlywydd yr Unol Daleithiau yn fyw
19 Ionawr 2017
Wrth i Donald Trump dyngu llw'r Arlywydd yn Washington Ddydd Gwener 20 Ionawr 2017, bydd darlithwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnal digwyddiad arbennig i fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd.
Llwyddiant ym mynegai Stonewall yn destun balchder
19 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant nodedig arall yn sgil ddringo dros 100 safle mewn arolwg ar draws y DU sy'n mesur ei chryfder fel cyflogwr cynhwysol.
Cwmni cŵn yn codi’r pwysau
17 Ionawr 2017
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gydag elusen achub cŵn i gynorthwyo myfyrwyr a lleddfu rhywfaint ar bwysau arholiadau.
Astudiaeth newydd yn edrych ar y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn Ewrop
17 Ionawr 2017
Mae ymchwilwyr yn Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg y Brifysgol wedi cael grant o bron €5m gan yr Undeb Ewropeaidd i edrych ar anghydraddoldebau rhanbarthol.
Dyddiad cau ysgoloriaethau mynediad
13 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn annog ymgeiswyr i beidio â cholli allan ar gymorth ariannol a allai fod werth hyd at £2000 y flwyddyn, ar drothwy’r dyddiad cau arholiadau mynediad ar 18 Ionawr 2017.
Is-Ganghellor yn codi £10,000 tuag at gymorth i fyfyrwyr
13 Ionawr 2017
Mae gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr y Aberystwyth wedi derbyn hwb diolch i her triathlon yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro John Grattan a gwblhaodd IronMan Cymru ym mis Medi 2016.
Prawf wrin newydd yn medru datgelu’n gyflym a yw person yn bwyta’n iach
13 Ionawr 2017
Mae gwyddonwyr o Aberystwyth, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Newcastle wedi datlblygu prawf wrin sy'n mesur iechyd diet person ac yn rhoi syniad o faint o fraster, siwgr, ffibr a phrotein mae person wedi’i fwyta.
BRAVO - optimeiddio perfformiad cnydau bresych
12 Ionawr 2017
Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn bartner arweiniol mewn prosiect newydd pum mlynedd sy’n mynd i'r afael â'r colledion sy’n effeithio ar ddau o gnydau llysiau mwyaf gwerthfawr y DU yn economaidd.
Prosiect newydd i ymchwilio i newid yn yr hinsawdd a threftadaeth arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon
12 Ionawr 2017
Ymchwilwyr o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn rhan o brosiect Ewropeaidd newydd i ymchwilio i beryglon newid yn yr hinsawdd i dreftadaeth rhai o dirweddau arfordirol pwysicaf Cymru ac Iwerddon.
Troi cewynnau tafladwy yn decstilau a biodanwydd
11 Ionawr 2017
Joe Freemantle sydd wedi graddio mewn bioleg wedi datblygu proses ecogyfeillgar i droi cewynnau tafladwy, padiau anymataliaeth a chynnyrch glanweithiol yn gynnyrch gwerthfawr gan gynnwys cellwlos pur a biodanwydd.
Pencampwraig beicio mynydd y byd yn agor campfa newydd y Brifysgol
10 Ionawr 2017
Rachel Atherton, pencampwraig lawr mynydd y byd bum gwaith, yn agor campfa newydd y Brifysgol.
Cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer Campws Arloesi a Menter £40.5m Aberystwyth
06 Ionawr 2017
Bydd y datblygiad £40.5m ar gampws Gogerddan yn cynnwys Canolfan Bioburo, Canolfan Bwyd y Dyfodol, labordai Gwyddor Ddadansoddol a Bio-fanc Hadau a Chyfleuster Prosesu.
Aderyn cynhanesyddol yn hedfan unwaith eto yn Aberystwyth
06 Ionawr 2017
Archaeopteryx 150 miliwn o flynyddoedd oed fydd canolbwynt addrangosfa newydd 'Etifeddiaeth Jwrasig' fydd yn agor yn yr Hen Goleg yn Chwefror 2017.
Ymchwilydd o Aberystwyth yn teithio i Antarctica
05 Ionawr 2017
Bydd yr Athro Neil Glasser, rhewlifegwr o Brifysgol Aberystwyth, yn teithio i Antarctica Ddydd Sadwrn 7 Ionawr fel rhan o astudiaeth ryngwladol i effeithiau newid yn yr hinsawdd.