Cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer Campws Arloesi a Menter £40.5m Aberystwyth
Delwedd arlunydd o ddatblygiad arfaethedig Campws Arloesi a Menter Aberystwyth
06 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â Champws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC), wedi cyflwyno cais cynllunio llawn yn ffurfiol i Gyngor Sir Ceredigion.
Wedi’i leoli ar Gampws Gogerddan y Brifysgol, bydd y datblygiad £40.5m yn cynnwys Canolfan Bioburo, Canolfan Bwyd y Dyfodol, labordai Gwyddor Ddadansoddol a Bio-fanc Hadau a Chyfleuster Prosesu.
Mae’r cais llawn yn dilyn cyfnod o ymgynghori cynhwysfawr â’r cyhoedd wrth i bobl â diddordeb yn y datblygiad gael cyfle i ddysgu mwy am y gwelliannau arfaethedig i gampws presennol Gogerddan ar gyrion Aberystwyth.
Trwy’r broses ymgynghori, derbyniodd y tîm prosiect adborth er gwybodaeth a oedd o gymorth wrth baratoi’r cais terfynol.
Dywedodd Huw Watkins, Cyfarwyddwr y Prosiect, ar ran Tîm y Prosiect; “roedd hi’n hanfodol fod y gymuned yn cael cyfle i gael golwg ar y cynigion, holi cwestiynau a dysgu mwy am y weledigaeth, yr effaith a’r amserlen. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn ac yn arbennig o werthfawr i dîm y prosiect. Roedd yn caniatáu inni wneud cynnydd ar bethau sydd o fudd i’r gymuned, megis atebion i’r pryderon ynghylch y ffordd. Byddwn yn cydweithio â Chyngor Sir Ceredigion yn ystod y misoedd nesaf i hwyluso cyfres o welliannau fydd yn gweithio i bawb.”
Bydd y Campws Arloesi a Menter, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth, yn darparu adnoddau sy’n arwain y byd ynghyd â’r arbenigedd i greu atebion masnachol i’r diwydiant technoleg amaeth.
Bu’r ymgynghorwyr cynllunio, Cushman & Wakefield, yn rhan annatod o’r broses, yn arbennig wrth gefnogi tîm prosiect AIEC wrth iddynt baratoi a chyflwyno’r cais cynllunio.
“Mae cyflwyno’r cais cynllunio yn garreg filltir o bwys i brosiect AIEC. Mae’n ffrwyth ymgysylltu a thrafod helaeth â Chyngor Sir Ceredigion a rhanddeiliaid lleol cyn cyflwyno’r cais, ac mae cydweithrediad a chydweithio rhwng yr holl bartïon yn allweddol i’r cais yn cael ei gyflwyno a’i ddilysu yn llwyddiannus yn unol â llwybr pwysig rhaglen gyflenwi’r prosiect” meddai Andrew Teage, Ymgynghorydd Cyswllt – Cynllunio a Datblygu gyda Cushman & Wakefield.
Bydd AIEC yn darparu amgylchedd blaengar lle y gall cydweithredu rhwng busnes a’r byd academaidd ffynnu, drwy gynnig ystod o adnoddau o safon uchel i helpu i wireddu posibiliadau gwaith ymchwil ac arloesi, a chynnig cyfle i fentrau masnachol i dyfu, ffynnu a sbarduno twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru a thu hwnt.
Bydd hefyd yn darparu mannau ffurfiol ac anffurfiol i gynnal cyfarfodydd a swyddfeydd/labordai at ddefnydd cwmnïoedd.
Bydd yn adeiladu ar y galluoedd sydd eisoes yn bodoli yn Athrofeydd Prifysgol Aberystwyth, gan gydweithio’n arbennig o agos gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i wella’r adnoddau ymchwil ardderchog a gynigir ar hyn o bryd, a’u gwneud yn fwy hygyrch.
Mae un o’r adeiladau presennol a fydd yn rhan o’r Campws ar safle Gogerddan eisoes wedi’i adnewyddu i safon uchel, gan ddarparu dros 300m2 o ofod y gall y gymuned fusnes ei rentu ar gyfer swyddfeydd. Mae’r cyfleuster wedi’i foderneiddio i ddarparu’n benodol ar gyfer cwmnïoedd sy’n dymuno gweithio yn yr un lle ag ymchwilwyr blaengar yn y sectorau biowyddorau a thechnoleg amaeth.
Disgwylir penderfyniad ar y cais cynllunio yng ngwanwyn 2017. Os ceir caniatâd cynllunio, bwriedir dechrau adeiladu ganol 2017 a disgwylir y bydd y gwaith yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau.