Becsit a Chymru: Y Cwestiynau Allweddol
Nodi sefydlu Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru; (Chwith i’r Dde) Dr Taulat Guma, Dr Lucy Taylor, yr Athro Michael Woods, Dr Elin Royles a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
20 Ionawr 2017
Wythnos wedi cyhoeddiad y Prif Weinidog Theresa May y bydd y DU yn gadael y farchnad Ewropeaidd sengl, mae gwahoddiad i’r cyhoedd i drafodaeth arbennig ar beth allai Brecsit ei olygu mewn gwirionedd i bobl a chymunedau canolbarth Cymru.
Caiff 'Brecsit a Chymru - Y Cwestiynau Allweddol' ei gynnal gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yng nghanolfan y Morlan yn Aberystwyth am 7pm nos Fercher 25 Ionawr 2017.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys yr Athro Michael Woods fydd yn trafod goblygiadau Brexit i’r Gymru wledig, Dr Rhys Dafydd Jones ar yr effaith ar ymfudwyr Ewropeaidd yng Nghymru, a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Elin Royles yn ymdrin â’r effeithiau ar iaith a diwylliant Cymru.
Bydd y noson hefyd yn gyfle i lansio’n ffurfiol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.
Mae’r Ganolfan newydd yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg, yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau perthnasol sydd â diddordeb yng Nghymru.
Bydd y Ganolfan hefyd yn chwarae rôl allweddol fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).
Mae’r Athro Michael Woods yn Athro Gwyddor Gymdeithasol Drawsffurfiol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.
"Ein nod gyda'r Ganolfan newydd yw datblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes a chymdeithas Cymru a’i ystyried mewn cyd-destun byd-eang. Rydym yn byw mewn oes o newid gwleidyddol sylweddol a bydd gweithgaredd y Ganolfan yn ffocysu ar themâu allweddol sy'n berthnasol i'n bywydau bob dydd, "meddai'r Athro Woods.
"Yn y digwyddiad lansio, byddwn yn ystyried effaith Brexit ar ein cymunedau lleol yng nghanolbarth Cymru, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd wedi bod yn elfen bwysig o'n gwaith erioed a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i alw draw i rannu barn, gofyn cwestiynau a chlywed mwy am y ganolfan ymchwil newydd bwysig hon."
Mae mynediad i’r noson yn rhad ac am ddim a bydd lluniaeth ysgafn a sesiwn bosteri am 6.30 yr hwyr. Croeso cynnes i bawb.
Ar adeg hanfodol ar gyfer trafod gwleidyddol a strategol o gwmpas ymadawiad y DU o'r UE, mae Prifysgol Aberystwyth yn trefnu dau ddigwyddiad cyhoeddus arall ym Mhrif Neuadd yr adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais i dynnu sylw at rai o'r prif heriau.
Am 6 yr hwyr Ddydd Mawrth 31 Ionawr, bydd yr Athro Michael Keating o Brifysgol Aberdeen a Chyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar Newid Cyfansoddiadol yn traddodi darlith ar ‘Between Two Unions: Brexit and the Nations?’.
Ac ar Ddydd Iau, 2 Chwefror am 4 y prynhawn bydd Canghellor Prifysgol Aberystwyth a chyn-gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, yn trafod “The Challenge of Implementing Brexit and the Implications for British Foreign Policy”.