Astudiaeth i gamdrin yr henoed yn cael ei lansio yng Nghaerdydd
Yn 2015 dyfarnwyd £890,000 gan Gronfa’r Loteri Fawr tuag at Choice/Dewis, prosiect £1.3m ar Gamdrin a Chyfiawnder yr Henoed. Yn y llun (chwith i’r dde) mae’r Athro Alan Clarke, Cyd-Brif Ymchwilydd, Sarah Wydall, Uwch Gymrawd Ymchwil a Chyd-Brif Ymchwilydd, a’r Athro John Williams, Cyd-Brif Ymchwilydd ar y prosiect.
25 Ionawr 2017
Mae prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar gamdrin pobl hŷn yn cynnal ei gyfarfod lansio yng Nghaerdydd heddiw, Dydd Mercher 25 Ionawr 2017.
Ymhlith y rhai fydd yn siarad yn ystod digwyddiad Dewis mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, sydd wedi bod yn gefnogwr cyson i'r prosiect.
Wedi'i leoli yng Nghanolfan Astudio Heneiddio, Camdrin ac Esgeuluso Ysgol y Gyfraith Aberystwyth, nod prosiect Dewis yw codi’r llen ar gamdrin ymysg pobl hŷn – problem sy’n aml yn un gudd.
Bydd hefyd yn archwilio cyfleoedd lles a chyfiawnder, gan gynnwys atebion sifil, troseddol ac adferol.
Mae Swyddog Cymorth Dewis wedi ei phenodi i ymgysylltu gyda phobl hŷn yng Nghaerdydd sy'n dioddef camdrin yn y cartref gan aelodau teuluol.
Mae Carmel Boston yn gynghorydd cymwys annibynnol ar drais rhywiol a thrais yn y cartref ac mae’n gweithio o swyddfeydd Cymru Ddiogelach yng Nghaerdydd, elusen sydd wedi bod yn gweithio gyda dioddefwyr camdrin domestig ers 20 mlynedd.
Dywedodd yr Athrol Alan Clarke o brosiect Dewis: "Mae'r digwyddiad yng Nghaerdydd yn nodi cam newydd arall yn natblygiad y maes ymchwil hollbwysig hwn. Wrth i Carmel Boston ddechrau gweithio gyda chleientiaid yn y misoedd nesaf, byddwn yn gallu casglu tystiolaeth o astudiaethau achos sy’n esblygu er mwyn llywio ein canfyddiadau a’n hargymhellion polisi i’r dyfodol.
"Mae codi ymwybyddiaeth o gamdrin pobl hŷn o fewn cymunedau yn elfen allweddol o brosiect Dewis ac rydym yn gobeithio ymestyn ein cyrhaeddiad y tu hwnt i Gaerdydd trwy benodi ail Weithiwr Cymorth i weithio yn Sir Gaerfyrddin."
Mae prosiect Dewis hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Age Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu’r Da, Hafan Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru.
Mae Dewis yn brosiect amlddisgyblaethol sy'n cynnwys cyfreithwyr, arbenigwyr ym maes troseddeg a gwneuthurwyr ffilm o Brifysgol Aberystwyth.
Yn 2015 dyfarnwyd £890,000 gan Gronfa’r Loteri Fawr tuag at y prosiect £1.3m ar Gamdrin a Chyfiawnder yr Henoed.
Cynhelir y lansiad yn swyddfeydd Cymru Ddiogelach, Llawr Cyntaf, Castle House, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 1BS am 11 y bore, Ddydd Mercher 25 Ionawr 2017.