Casglu’r samplau cyntaf yn Antarctica
Un o’r clogfeini cwarts sydd wedi ei gadael ar wely o dywodfaen ar Fossilryggen ac sy'n cael ei samplu fel rhan o brosiect MAGIC-DML: Llun: Net Lifton, Ionawr 2017.
20 Ionawr 2017
Ers dechrau’r ail wythnos ym mis Ionawr mae’r Athro Neil Glasser allan yn Antarctica fel rhan o astudiaeth ryngwladol i effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Yno mae’r Athro Glasser yn cydweithio gyda gwyddonwyr o Sweden, yr Unol Daleithiau a Norwy ar daith saith wythnos ar Len Iâ Dwyrain yr Antarctig.
Ar hyn o bryd mae’r tîm yn parhau gyda’r gwaith o ymsefydlu a phrofi offer, ac yn manteisio ar gyfleoedd i ddechrau ar y gwaith ymchwil ac yn casglu eu samplau cyntaf.
Mewn colofn ar flog y daith, mae’r Athro Glasser yn nodi’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma.
Ynddi mae’n son am brofi’r cerbydau a’r offer yn ystod taith 50km ar draws yr iâ at graig, neu nunatak, o’r enw Fossilryggen.
Dywed: “Roedd y daith yn holl bwysig ar gyfer profi’r cerbydau a’r system storio a phacio cerbydau y mae Calle [y tîm cefnogi] ac eraill wedi ei datblygu, yn ogystal â phrofi ein cyfarpar sefydlu camp, ond roedd hefyd yn gyfle i ni gasglu samplau o Fossilryggen, un o’n safleoedd targed.”
Llun agos o’r glogfaen gwarts gyda lletemau yn eu lle. Mae'r lletemau yn cael eu morthwylio i dyllau wedi eu drilio er mwyn creu hollt. Llun: Nat Lifton, Ionawr 2017.
Gyda chefnogaeth Ysgrifenyddiaeth Begynol Sweden, mae’r tîm wrthi yn casglu data gwyddonol yn Nhir Dronning Maud er mwyn ail-greu hanes hirdymor sut y bu i’r llen iâ yno deneuo.
Gwaith yr Athro Glasser yw casglu samplau o greigiau a’u cludo i’r DU ar gyfer eu dyddio gan ddefnyddio techneg Dyddio yn ôl Arwyneb Niwclid Cosmogenig - Dyddio NC.
Mewn cyfweliad cyn gadael Cymru, dywedodd: "Mae Dyddio NC yn ddull newydd sbon yr ydym yn ei ddatblygu sy'n ein galluogi i fesur faint o amser y mae wyneb y graig wedi bod yn agored – drwy hynny gallwn amcangyfrif pryd y bu i’r iâ deneuo.”
Mae’r creigiau yn cael eu casglu oddi ar nunatak yn yr ardal, mynyddoedd creigiog rhai cannoedd o fetrau o uchder sy'n torri drwy’r llen iâ.
Darllen mwy am waith yr Athro Neil Glasser a phrosiect MAGIC-DML