Canfod cariad ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ar ddiwrnod eu priodas yn 2013, fe aeth Eurig Salisbury a Rhiannon Parry yn ôl i’r ddarlithfa yn yr Hen Goleg lle bu’r ddau yn fyfyrwyr israddedig. Llun: Keith Morris
25 Ionawr 2017
Wrth i Gymru ddathlu Dydd Santes Dwynwen, mae Prifysgol Aberystwyth yn chwilio am straeon rhamantus gan gyn fyfyrwyr am gyplau a gyfarfu ar y campws, a lle mae cariad wedi blodeuo yn y ddarlithfa.
O heddiw tan Ddydd San Ffolant (14 Chwefror 2017), mae cyplau a ddaeth ynghyd tra’n astudio yn Aber yn cael eu hannog i bostio eu storïau a’u lluniau gan ddefnyddio'r hashtag #caruaber.
Y nod yw creu cofnod o’r uniadau amrywiol sydd wedi cychwyn yn y Coleg Ger y Lli dros y blynyddoedd .
Gallai’r straeon gyfeiriio at ramant cerdded y promenâd wrth i'r haul fachlud dros Fae Ceredigion, picnic ar Bendinas neu bryd o fwyd cofiadwy yn un o fwytai niferus y dref.
Bydd Angharad Jones a Llŷr Evans yn priodi yn ddiweddarach eleni, ar ôl cwrdd â’i gilydd pan oedd y ddau’n fyfyrwyr israddedig ddeng mlynedd yn ôl ac yn byw yn Neuadd Pantycelyn.
Fe drefnodd Llŷr ei fod e’n gallu dychwelyd i’r neuadd gydag Angharad er mwyn gallu holi’r cwestiwn holl bwysig am briodi.
"Roeddwn i wedi siarad gyda’r Brifysgol a llwyddo i drefnu cael mynd i'r union ystafell lle'r oedd Angharad yn byw yn ystod ei hamser ym Mhantycelyn. Nes i addurno’r waliau gyda rhai o'r posteri o'r cyfnod cyn gofyn y cwestiwn. Mae gan Brifysgol Aberystwyth enw da am fod yn lle cyfeillgar a chroesawgar ac mae’n hatgofion ni o fod yn fyfyrwyr yn sicr yn rhai melys iawn," meddai Llŷr.
Yn Aber y cyfarfu Eurig a Rhiannon Salisbury hefyd ac maen nhw newydd ddathlu pen-blwydd cyntaf eu mab Llew.
Ar ddiwrnod eu priodas yn 2013, fe wnaethon nhw drefnu bod eu lluniau priodas hefyd yn cynnwys y ddarlithfa lle ddaeth y ddau i nabod ei gilydd fel myfyrwyr israddedig.
"Mae’r Hen Goleg yn lle hudolus, gyda hanes hynod sy’n amlygu pwysigrwydd y berthynas rhwng y Brifysgol a'r dref. Mae Rhiannon a finnau’n trysori'r atgofion sydd gennym o'n hamser yn astudio yma ac mae’n lluniau priodas o’r Hen Goleg yn ein hatgoffa yn gyson o’r dyddiau da hynny, "meddai Eurig, sydd bellach yn gweithio fel darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Fel rhan o ddathliadau Santes Dwynwen 2017, mae swyddogion Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn crwydro'r campws gan rannu cardiau post arbennig a siocledi siâp calon.
Dywedodd Llywydd UMCA Rhun Dafydd: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd ac nid pawb sy’n gyfarwydd â thraddodiadau Cymru. Mae chwedl Dwynwen yn rhan annatod o’n hanes felly mae heddiw yn gyfle gwych arall i ddathlu’n diwylliant ac i rannu’r stori garu arbennig hon gyda'n cymuned ehangach o fyfyrwyr."
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, Louise Jagger: "Mae Aberystwyth yn lle eithriadol i ddysgu a byw. Caiff ein myfyrwyr gyfle nid yn unig i fanteisio ar addysg ragorol sy’n cael ei arwain gan ymchwil ond hefyd cyfle i fyw mewn lle arbennig iawn a bod yn rhan o gymuned arbennig iawn. Nid yw'n syndod felly bod cymaint o bartneriaethau hirdymor yn cael eu saernïo rhwng myfyrwyr.
"Mae gennym gyn-fyfyrwyr ar draws y byd sydd wedi cwrdd yma ac sy'n edrych yn ôl gydag atgofion melys iawn ar eu dyddiau yn Aber. Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr at glywed rhagor o straeon am sut wnaethon nhw gwrdd a chael gweld ambell lun cofiadwy naill ai o'u cyfnod fel myfyrwyr neu ar ddiwrnod eu priodas."