Astudiaeth newydd yn edrych ar y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn Ewrop
Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain IMAJINE (Mecanweithiau Integreiddiol ar gyfer Ymdrin â Chyfiawnder ac Anghydraddoldebau Tiriogaethol yn Ewrop), un o'r prosiectau gwyddorau cymdeithasol mwyaf i gael ei ariannu fel rhan o raglen Horizon 2020 yr UE
17 Ionawr 2017
Mae’r bwlch rhwng ardaloedd cyfoethog a thlawd Ewrop yn destun prosiect ymchwil arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
Mae ymchwilwyr yn Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg y Brifysgol wedi cael grant o bron €5m gan yr Undeb Ewropeaidd i edrych ar anghydraddoldebau rhanbarthol.
Mae IMAJINE (Mecanweithiau Integreiddiol ar gyfer Ymdrin â Chyfiawnder ac Anghydraddoldebau Tiriogaethol yn Ewrop) yn un o'r prosiectau gwyddorau cymdeithasol mwyaf i gael ei ariannu fel rhan o raglen Horizon 2020 yr UE ac yn cynnal ei lansio ym Mrwsel Ddydd Mercher 18 mis Ionawr 2017.
Dros gyfnod o bum mlynedd, nod y prosiect yw llunio dulliau polisi newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo dosbarthiad tecach o adnoddau ar draws yr UE.
Dan arweiniad yr Athro Michael Woods a'i dîm ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect yn dwyn ynghyd 15 o bartneriaid o bob rhan o Ewrop i astudio anghyfartaleddau rhanbarthol trwy ddefnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol unigryw.
Bydd yn cyfuno arbenigedd economegwyr, daearyddwyr, cynllunwyr, gwyddonwyr gwleidyddol a chymdeithasegwyr i ddadansoddi ar lefel Ewropeaidd ac achos manwl o astudiaethau mewn 11 o wledydd, gan gynnwys Cymru.
Bydd cylch gwaith ymchwilwyr IMAJINE hefyd yn cynnwys:
• dadansoddiad o ystadegau economaidd-gymdeithasol ar anghydraddoldebau;
• arolwg ar-lein i fesur canfyddiadau'r cyhoedd o anghydraddoldebau rhanbarthol a pholisïau cydlyniant;
• ymchwiliadau i'r cysylltiadau rhwng anghydraddoldeb a mudo rhanbarthol, ac anghydraddoldebau rhanbarthol a symudiadau ar gyfer ymreolaeth wleidyddol;
• ymchwil ar sut mae llywodraethau yn defnyddio’r dosbarthiad o wasanaethau cyhoeddus ac adnoddau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau;
• ymarferion 'adeiladu senario cyfranogol' gyda rhanddeiliaid i archwilio opsiynau polisi posib i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Dywedodd cydlynydd prosiect IMAJINE, yr Athro Michael Woods: “"Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos bod llawer o bobl yn teimlo nad yw’r rhanbarthau lle maen nhw’n byw yn cael cyfran deg o’r gacen. Mae cydlyniant tiriogaethol yn un o egwyddorion sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, ac eto ers 2008 mae anghydraddoldebau rhwng gwahanol ardaloedd Ewrop wedi cynyddu ac mae consensws cynyddol bod angen ail-edrych ar bolisïau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol a datblygu rhanbarthol. Trwy ddod at y broblem mewn modd eang ac amlddisgyblaethol, ein gobaith yw y bydd IMAJINE yn annog syniadau newydd a ffyrdd ffres o feddwl.
"Rydym yn awyddus i archwilio, er enghraifft, a yw canfyddiadau'r cyhoedd o anghydraddoldebau yn cyd-fynd â'r dadansoddiad ystadegol? A oes cysylltiad rhwng anghydraddoldeb rhanbarthol a phatrymau ymfudo? Ac a allai datganoli mwy o rym gwleidyddol i’r rhanbarthau gynnig ffordd amgen o fynd i'r afael ag anghyfiawnderau canfyddedig?
"Bydd gofyn y cwestiynau hyn yn ein galluogi i weithio gydag ystod o randdeiliaid - yn llywodraethau, yn gyrff anllywodraethol ac yn gymunedau er mwyn datblygu polisïau sy'n dychmygu dyfodol mwy cyfiawn ar draws holl diriogaeth Ewrop."
Mae’r tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n rhan o IMAJINE yn cynnwys yr Athro Woods, yr Athro Rhys Jones a’r Dr Rhys Dafydd Jones (Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), Dr Anwen Elias, Dr Catrin Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles (Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol), Dr Maria Plotnikova (Ysgol Fusnes Aberystwyth) a Dr Sarah Riley (Seicoleg).