Troi cewynnau tafladwy yn decstilau a biodanwydd
Joe Fremantle (Chwith) a Dr Gordon Allison
11 Ionawr 2017
Mae gwaredu gwastraff wedi'r Nadolig, sy'n cynnwys papur lapio a phecynnu, yn gur pen i lawer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Ond mae rheoli mathau penodol o wastraff gan gynnwys cewynnau tafladwy yn creu heriau amgylcheddol sylweddol.
Yn awr gallai ateb fod ar y gweill yn dilyn datblygu proses ecogyfeillgar newydd gan Joe Fremantle, un o raddedigion bioleg Prifysgol Aberystwyth.
Mae Joe wedi dyfeisio proses i droi cewynnau tafladwy, padiau anymataliaeth a chynnyrch glanweithiol yn gynnyrch gwerthfawr gan gynnwys cellwlos pur a biodanwydd.
Bob blwyddyn mae'r DU yn cynhyrchu miliwn tunnell o wastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) gyda'r mwyafrif ohono yn mynd i safleoedd tirlenwi ac yn cyfrannu at y cynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Datblygodd Joe y broses newydd yn ystod ei gyfnod yn astudio am radd Meistr mewn Biotechnoleg Gwyrdd a Rheoli Arloesedd yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Arianwyd y gwaith drwy raglen Climate-KIC Greenhouse, yn dilyn cais llwyddiannus ym mis Rhagfyr 2015.
"Ein bwriad yw casglu'r gwastraff penodol hwn a thrwy ddefnyddio technolegau gwahanu a phuro, a chaniatáu ailgylchu cydrannau gwerthfawr, gallwn leihau faint o'r CHA fydd yn mynd i safleoedd tirlenwi/llosgyddion ac a fydd yn ei dro yn lleihau'r galw ac felly'r allyriadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r deunyddiau hyn,” meddai Joe.
"Yna mae angen i'r cewynnau gael eu prosesu - gwahanu'r ffibrau o'r cydrannau plastig a rhaid tynnu'r gwenwyn o'r gwastraff glanweithiol, cyn ei eplesu i fod yn hylif tanwydd cludiant."
“Mi fydd hefyd yn bosibl ail-greu cellwlos pur sy’n werthfawr ac sy’n gallu cael ei ddefnyddio i gynhyrchu polymerau megis reion, lyocell a fiscos.”
"Rwyf erioed wedi bod yn angerddol am gynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a busnes a'r nod gyda’r cynllun hwn yw dod â'r tri at ei gilydd mewn datblygiad cadarnhaol,” ychwanegodd.
Dywedodd yr Uwch Wyddonydd Ymchwil yn IBERS a thiwtor Meistr Joe, Dr Gordon Allison: "Daeth Joe i'w gwrs Meistr yn Aberystwyth gyda'i ben yn llawn syniadau ar ôl treulio blwyddyn yn gweithio ym maes biotechnoleg fasnachol. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu iddo barhau i weithio tuag at ei uchelgais busnes."
Seiliwyd cysyniad gwreiddiol Joe ar drosi hen fonion sigaréts yn fiodanwydd, syniad a ddatblygwyd ganddo fe a'i gyfeillion wedi mynychu Ysgol Haf Climate-KIC 'Y Daith' yn 2015.
Arweiniodd hyn at sefydlu'r cwmni cychwynnol Green Phoenix a'r prosiect i drosi cewynnau tafladwy yn wastraff glanweithiol.
Ychwanegodd Joe: "Trwy gydol fy Astudiaeth Meistr mewn Biotechnoleg Wyrdd a Rheoli Arloesedd, cefais y cyfle i ddatblygu'r model busnes a mireinio'r syniad gyda chymorth gwyddonwyr IBERS. Rwy'n dysgu sgiliau newydd drwy'r amser sy'n fy helpu i'n bersonol dyfu fel unigolyn ac mae cael fy nerbyn ar y prosiect tŷ gwydr wedi rhoi'r cyfle i fi brofi cysyniadau'r prosiect Green Phoenix. Mae gen i hefyd fwy o hyder yn fy ngallu fy hun."