Dangos seremoni urddo Arlywydd yr Unol Daleithiau yn fyw
19 Ionawr 2017
Wrth i Donald Trump dyngu llw'r Arlywydd yn Washington Ddydd Gwener 20 Ionawr 2017, bydd darlithwyr yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad arbennig i fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd.
Bydd seremoni urddo Mr Trump yn Arlywydd rhif 45 yr Unol Daleithiau yn cael ei dangos yn fyw ar sgriniau mawr ym Mhrif Neuadd yr Adran, gyda sylwebaeth arbenigol gan Dr Jenny Mathers a Dr Warren Dockter, y ddau yn ddinasyddion Americanaidd.
Bydd y digwyddiad yn Aberystwyth yn dechrau am 4 o’r gloch y prynhawn gyda thrafodaeth a lluniaeth, a’r seremoni tyngu llw yn digwydd am 5 o’r gloch y prynhawn ein hamser ni (12:00 yn amser yr Unol Daleithiau).
Daw’r dangosiad hwn yn sgil noson arbennig yr etholiad arlywyddol a gynhaliwyd gan yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Tachwedd pan ddaeth myfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol at ei gilydd i wylio a thrafod y canlyniadau drwy’r nos.
Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol: “Mae urddo Arlywydd yr Unol Daleithiau yn foment bwysig i nodi trosglwyddiad heddychlon o bŵer, elfen fach ond bwysig o ddemocratiaeth Americanaidd. Beth bynnag yw ein barn am ganlyniadau’r etholiad, fel myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol a dinasyddion, mae angen i ni fod yn rhan o ddigwyddiadau o'r fath, ac mae'n wych bod yr adran yn dangos y digwyddiad yn fyw ac yn cynnig sylwebaeth ar y pryd wrth i bedair blynedd nesaf o bŵer Americanaidd gychwyn.”
Dywedodd Dr Jenny Mathers, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Mae arlywyddiaeth Trump yn mynd i effeithio ar y byd am y bedair blynedd nesaf o leiaf. Bydd staff a myfyrwyr yr Adran yn cadw llygad barcud ar sylwedd ac arddull ei weinyddiaeth ac yn ei ystyried o sawl safbwynt gwahanol. Fel Americanes ac academydd, credaf fod urddo Trump yn ddigwyddiad nodedig ac rydym yn edrych ymlaen at drafod y materion niferus a godir yn ei sgîl.”
Cynghorir pawb sy'n dymuno mynychu'r dangosiad i gyrraedd yn gynnar gan fod disgwyl y bydd y galw mawr am lefydd.
I’r rhai na allant fod yn bresennol, bydd cyfle i ddilyn y drafodaeth drwy gyfrif Twitter yr adran - @InterpolAber.
Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, derbyniodd yr adran sgôr o 95%, gan ei gosod yn y 10 uchaf yn y DU am Wleidyddiaeth (NSS 2016).
Mae'r Adran hefyd yn 7fed yn y DU ar gyfer ymchwil ymhlith adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn ôl y Fframwaith Ymarfer Ymchwil diweddaraf (REF2014).
I wybod mwy am astudio yn Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ewch i wefan yr Adran.