Prosiect newydd i ymchwilio i newid yn yr hinsawdd a threftadaeth arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon
Golygfa o'r awyr o Ynys Dewi ar arfordir gogleddol sir Benfro. Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
12 Ionawr 2017
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect Ewropeaidd newydd gwerth miliynau o bunnoedd i ymchwilio i beryglon newid yn yr hinsawdd i dreftadaeth rhai o dirweddau arfordirol pwysicaf Cymru ac Iwerddon.
Gyda chyllid o €4.1m gan raglen Iwerddon-Cymru yr UE, caiff y prosiect ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) yn Aberystwyth.
Y gobaith yw y bydd prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) hefyd yn ysgogi twf economaidd mewn cymunedau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon.
Pentiroedd ac ynysoedd o amgylch Sir Benfro, Bae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn fydd canolbwynt y prosiect, ynghyd â safleoedd ar hyd arfordiroedd de a dwyrain Iwerddon.
Caiff y technolegau diweddaraf eu defnyddio i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir a’r ynysoedd a safleoedd treftadaeth forol sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol, stormydd a chynnydd yn lefelau'r môr.
Bydd y prosiect yn ariannu gwaith cloddio newydd, cofnodion o newid amgylcheddol, mapio morol a modelu tirwedd.
Amcan arall fydd cefnogi strategaethau ar newid hinsawdd yn y dyfodol drwy ddarparu dealltwriaeth ddyfnach o newidiadau hirdymor i amgylcheddau treftadaeth ac arfordirol Cymru ac Iwerddon sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Bydd y prosiect hefyd yn darparu gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfleoedd twristiaeth drwy hyfforddiant a digwyddiadau cyhoeddus.
Canolbwynt cyfraniad Prifysgol Aberystwyth i'r bartneriaeth fydd datblygu cofnodion ansawdd uchel o newid amgylcheddol gan ddefnyddio cofnodion gwaddodol a hanesyddol. Dr Sarah Davies, Darllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD), fydd yn arwain y gwaith.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ni ym Mhrifysgol Aberystwyth i gydweithio gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar yr hyn a gredwn yw'r cynllun ar y cyd mwyaf o’i fath rhyngddom hyd yma" meddai Dr Davies, sy’n arwain tîm o’r Adran Ddaearyddiaeth sy’n cynnwys yr Athro Helen Roberts, Yr Athro Geoff Duller, yr Athro Henry Lamb, Dr Hywel Griffiths a Dr Cerys Jones.
“Drwy weithio gyda'n partneriaid yn Iwerddon a chymunedau arfordirol i ymchwilio i effeithiau hirdymor newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, ein nod yw cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o'r tirweddau arfordirol deinamig hyn a darparu atebion a fydd yn gymorth i ddiogelu treftadaeth ar gyfer y dyfodol.”
Cafodd cyhoeddiad am y prosiect €4.1m ei wneud gan Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford ddydd Mercher 11 Ionawr 2017.
“Mae'r prosiect hwn yn gyfle i Gymru ac Iwerddon ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ein hardaloedd arfordirol.
“Mae'n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu, ac mae'n bleser gweld y bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd newydd i sector twristiaeth y ddwy wlad.”
Dywedodd Gweinidog Gwariant Cyhoeddus Iwerddon, Paschal Donohoe, TD: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn ni ddefnyddio technolegau newydd i fynd i’r afael â’r materion diweddaraf fel y newid yn yr hinsawdd ac effaith hynny ar amgylchedd forol a threftadaeth ein dwy wlad. Mae hefyd yn ategu pwysigrwydd cydweithio trawsffiniol a’r cymorth sy’n cael ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer hynny.”
Mae Canolfan Archeoleg ac Arloesi Iwerddon (The Discovery Programme) ac Arolwg Daearegol Iwerddon hefyd yn bartneriaid ar y prosiect sy’n cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dywedodd Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru: “Dyma brosiect newydd cyffrous. Mae CHERISH yn uno archeolegwyr, geowyddonwyr ac arbenigwyr y môr i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n peryglu'r amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
“Bydd y prosiect hefyd yn ein galluogi ni am y tro cyntaf i gynnal gwaith maes ar rai o dirweddau archeolegol cyfoethocaf Cymru ac Iwerddon. Ry'n ni'n credu y bydd hyn yn arwain at lawer o gyfleoedd newydd a chyffrous ym maes twristiaeth treftadaeth ac arfordirol y ddwy wlad.”
Yn ogystal â € 4.1m o arian yr UE, mae Cherish yn cael ei gyd-ariannu gan € 1.1m gan y sefydliadau sy'n cymryd rhan.