Cwmni cŵn yn codi’r pwysau
Sam y ci defaid strae a aeth i Lyfrgell Llandysul am loches, ac a fydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Mercher 18 Ionawr.
17 Ionawr 2017
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gydag elusen achub cŵn i gynorthwyo myfyrwyr a lleddfu rhywfaint ar bwysau arholiadau.
Bydd Alpet Poundies Rescue yn darparu sesiynau therapi cŵn yn Undeb y Myfyrwyr Ddydd Mercher 18 Ionawr rhwng 10:30 y bore a 3 y prynhawn.
Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth i hyrwyddo lles myfyrwyr ac iechyd meddwl yn ystod cyfnod arholiadau.
Mae'r rhain yn cynnwys teithiau cerdded campws, gorsafoedd lliwio ofalgar a sesiwn trechu straen yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, yn ogystal â gofod ffydd newydd ar gampws Penglais a Llanbadarn.
Dywedodd y Swyddog Lles Myfyrwyr Naomi Cutler, "Gall arholiadau Ionawr fod yn hynod o straenus i lawer o fyfyrwyr a gyda lles myfyrwyr ac iechyd meddwl yn uchel ar ein hagenda rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn lleddfu rhywfaint ar y pwysau.
"Diolch yn arbennig i'r myfyrwyr gafodd y syniad o ddod â’r cŵn yma, y tîm yn Undeb y Myfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i roi'r digwyddiad at ei gilydd ac i Alpet Poundies am ymuno â ni gyda'u cŵn gwych. Os bydd y digwyddiad yn llwyddiannus, mi fyddwn yn sicr yn ystyried gwneud hyn eto."
Ychwanegodd Naomi: "Mae astudiaethau'n dangos y gall rhyngweithio ag anifeiliaid therapi leihau straen mewn pobl ac maent yn cael eu defnyddio mewn cartrefi gofal, hosbisau a llawer o sefydliadau eraill yn llwyddiannus iawn ac yn cael eu canmol.
"Gall chwarae gydag anifail gynyddu lefelau o’r hormon ocsitosin sy’n lleihau straen a lleihau faint o’r hormon straen, cortisol sy’n cael ei gynhyrchu.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Caryl Davies: "Mae lles meddyliol ein myfyrwyr yn holl bwysig i ni ac mae ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gael drwy’r flwyddyn. Er hyn, rydym yn ymwybodol bod cyfnod arholiadau yn gallu bod yn adeg o bwysau mawr yn ystod y calendr academaidd ac felly rydym wedi llunio rhaglen arbennig o weithgareddau er mwyn codi ychydig ar y pwysau."
Mae cyfraniadau gan alumni Prifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at y gost o gynnig sesiynau am ddim yng Nghanolfan y Celfyddydau a dod â’r cŵn i Aberystwyth.
Teithiau cerdded campws, gorsafoedd lliwio gofalgar, trechu straen a Gofod Ffydd
Teithiau Cerdded Campws
Mae teithiau cerdded amser cinio wedi bod yn cael eu cynnal ar Gampws Penglais drwy gydol y cyfnod arholiadau sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff i fwynhau ychydig o awyr iach ac archwilio gerddi’r campws. Cynhelir teithiau cerdded yr wythnos hon heddiw, Dydd Mawrth 17 a Dydd Iau 19 Ionawr 2017. Maent yn dechrau o'r dderbynfa ger y brif fynedfa am 12:30, ac mae croeso i fyfyrwyr a staff.
Gorsafoedd lliwio gofalgar
Sefydlwyd nifer o orsafoedd lliwio ar draws y campws i fyfyrwyr gymryd seibiant ac ymlacio. Daeth lliwio i oedolion yn boblogaidd iawn yn y blynyddoedd diweddar ac mae astudiaethau wedi dangos bod gweithgareddau creadigol sy’n golygu canolbwyntio ar batrymau cywrain a manylion, yn gallu cynyddu'r ymdeimlad o dawelwch ac ymlacio. Ar gael yn TaMed Da, Lolfa Rosser a Phentre Jane Morgan a Llyfrgell Hugh Owen.
Sesiynau curo straen y Ganolfan Chwaraeon
Mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn cynnig tocynnau am ddim bob dydd i’w Rhaglen Iechyd a Lles sy'n cynnwys dosbarthiadau nofio, campfa ac ymarfer corff. Ar gael i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim i helpu gyda straen yn ystod arholiadau tan Iau 27 Ionawr 2017. Mae rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Chwaraeon a’i sesiynau curo straen o gael ar-lein.
Gofod Ffydd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi agor dau Ofod Ffydd ar gyfer staff unigol / myfyrwyr at ddibenion defosiwn a/neu fyfyrdod tawel – sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd ac nid yn unig ar adeg arholiadau. Mae'r Gofod Ffydd ar Gampws Penglais wedi ei leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau, i’r dde o’r Café Piazza, a'r gofod ar Gampws Llanbadarn yn Blas Padarn. Mae mwy o wybodaeth am Ofod Ffydd y Brifysgol a sut i archebu nhw ar gael ar-lein yma.
Mae'r rhaglen Gweithdy Lles llawn ar gyfer 2017 ar gael yma.
Ceir mwy o wybodaeth am y digwyddiad gydag Undeb y Myfyrwyr ac Alpet Poundies Rescue yma.