Penodi academydd o Aberystwyth yn Is-Gadeirydd UNESCO yn y DU
Yr Athro Colin McInnes
20 Ionawr 2017
Mae’r Athro Colin McInnes, arbenigwr blaenllaw ar iechyd byd-eang a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cael ei benodi yn Is-Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (UKNC) ar gyfer UNESCO.
Cafodd y penodiad ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Priti Patel AS ar 6 Rhagfyr 2017.
Dywedodd yr Athro McInnes: "Mae’n fraint ac anrhydedd cael fy mhenodi i'r swydd hon. Nid unig waith UNESCO yw gosod safonau byd-eang ar draws addysg, y gwyddorau, diwylliant a chyfathrebu, hyrwyddo rhagoriaeth a gweithio i warchod yr hyn sydd orau; ei chenhadaeth allweddol yw hyrwyddo heddwch ym meddyliau pobl ym mhob man.
"Mae'r Comisiwn Cenedlaethol yn gweithio gyda llywodraethau'r DU a’r rhai datganoledig, a gyda phencadlys UNESCO i hyrwyddo'r gwerthoedd hyn yn lleol ac yn fyd-eang - o Fiosffer y Ddyfi a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n rhan o raglen Cof y Byd, i fentrau byd-eang ym maes addysgu at ddibenion datblygu cynaliadwy a rheoli trawsnewidiadau cymdeithasol."
Mae’r Athro McInnes wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol yr UKNC gyda chyfrifoldeb arbennig ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol a dynol ers 2014.
Ef arweiniodd grynodeb cyngor polisi UKNC i lywodraeth y DU An evaluation of the World Social Science Report: Challenges and potential.
Mae ganddo Gadair UNESCO ym maes HIV/AIDS, Diogelwch Iechyd ac Addysg yn Affrica yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, lle mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Ynghyd â phenodiad yr Athro McInnes yn Is-Gadeirydd, cyhoeddwyd Dr Beth Taylor yn Gadeirydd UKNC.
Mae Dr Taylor wedi gwasanaethau fel Cyfarwyddwr Anweithredol o UKNC, gan ganolbwyntio ar y Gwyddorau Naturiol, ers 2011.
UNESCO yw corff y Cenhedloedd Unedig sy'n gyfrifol am osod safonau a hyrwyddo Addysg, Gwyddoniaeth, Diwylliant a Chyfathrebu.
Yr UKNC sy’n arwain ar bolisïau a gweithgareddau UNESCO yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei gyhoeddiad Wider Value of UNESCO to the UKgydnabyddiaeth ryngwladol.
Mae'r Comisiwn yn sefydliad cymdeithas sifil annibynnol sy'n cefnogi gwaith UNESCO o ran meithrin heddwch, dileu tlodi, datblygu cynaliadwy a deialog rhyngddiwylliannol drwy addysg, y gwyddorau, diwylliant, a chyfathrebu.
Bydd yr Athro Colin McInnes a Dr Beth Taylor yn dechrau ar eu swyddi newydd ar unwaith.