Aderyn cynhanesyddol yn hedfan unwaith eto yn Aberystwyth
Sbesimen Berlin o’r Archaeopteryx ddarganfuwyd yn 1876. Museum für Naturkunde, Berlin, Yr Almaen.
06 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal arddangosfa 'Etifeddiaeth Jwrasig' yn yr Hen Goleg.
Canolbwynt yr arddangosfa fydd yr Archaeopteryx gyda'i adenydd sy’n fetr o led, ei grafangau a’i dannedd miniog.
Mae’n dyddio o'r cyfnod Jwrasig hwyr, tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a chredir taw dyma’r ddolen gyswllt rhwng dinosoriaid a'r aderyn modern.
Bydd yr arddangosfa sydd ar fenthyg o Amgueddfa Cymru, ac a fydd hefydd yn cynnwys ffosilau o gasgliadau'r Brifysgol, ac wedi ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL), yn agor o'r 14eg o Chwefror tan y 21ain o Ebrill 2017, ac yn cynnwys hanner tymor a gwyliau’r Pasg.
Mae'r Brifysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Ceredigion i ddarparu sesiynau ‘cyffwrdd â threftadaeth’ ar gyfer teuluoedd.
Dywedodd Eva De Visscher, awdur y cais yn Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal arddangosfa mor hynod o ddiddorol yn yr Hen Goleg. Diolch i gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd pobl o bob oed yn gallu dysgu am dreftadaeth naturiol drwy gyfrwng tri chasgliad unigryw sy’n dyddio'n ôl i'r cyfnod Jwrasig, a byddant i'w gweld gyda'i gilydd am y tro cyntaf."
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, “Mae arddangosfeydd teithiol fel hyn yn nodwedd bwysig o gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i roi bywyd newydd i’r Hen Goleg a darparu adnodd gwych i arddangos cyfleoedd dysgu, ymchwil a menter a fydd yn ysbrydoli defnyddwyr ac ymwelwyr a rhoi hwb i'r economi.”
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru: "Rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar nifer o brosiectau ymchwil a digwyddiadau yn y gorffennol ond hon fydd ein harddangosfa gyntaf ar y cyd, ac rydym yn falch iawn o hyn."
Yn ogystal, bydd y Brifysgol yn ychwanegu pedwar cast o ddinosoriaid pluog, a nifer o gastiau o greaduriaid cynhanesyddol eraill, bywyd gwyllt morol, a llystyfiant a roddwyd gan y botanegydd arloesol Agnes Arber.
Hefyd, bydd Dr Ian Scott a'r Athro emeritws Richard Hinchliffe o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a Dr Bill Perkins o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn darparu cynnwys ychwanegol.
Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth CTL yng Nghymru: "Diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hwn wedi creu cyfle newydd i sefydliadau i weithio gyda'i gilydd er budd pobl leol a thwristiaid. Rydym yn gwybod bod yna lawer o ddiddordeb mewn treftadaeth Jwrasig ac mae’r arian hwn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfle i weld a dod i wybod am gasgliadau pwysig na fyddai fel arall ar gael yn Aberystwyth. Mae CDL yn falch iawn i roi ei chefnogaeth.”
Cynhelir yr arddangosfa diolch i grant o bron i £9,800 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, a derbyniwyd arian cyfatebol ar ffurf rhodd hael o £5,000 gan Dr Terry Adams, daearegwr a chyn-fyfyriwr y Brifysgol, a £3,700 gan Gronfa Estyn Allan yr Adran Ffiseg.