Nifer ymgeiswyr ysgoloriaeth ar ei uchaf
Ymhlith y myfyrwyr sydd wedi teithio i i Aberystwyth i sefyll yr arholiad blynyddol mae ymgeiswyr o Rwmania, yr Eidal, Ffrainc, Hwngari, Sweden a'r Unol Daleithiau.
31 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweld cynnydd arall yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer eu harholiadau mynediad a gynhaliwyd heddiw (dydd Mawrth 31 Ionawr, 2016).
Mae'r arholiadau ysgoloriaeth yn cael eu cynnal ar draws cyfres o ganolfannau addysgol a sefydliadau mewn mwy na 12 o wahanol wledydd.
Ymhlith y myfyrwyr sydd wedi teithio i i Aberystwyth i sefyll yr arholiad blynyddol mae ymgeiswyr o Rwmania, yr Eidal, Ffrainc, Hwngari, Sweden a'r Unol Daleithiau.
Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i fynd ar daith campws, i weld y cyfleusterau gwych sydd gan Aber i’w cynnig ac i gwrdd â staff yr Adrannau.
Trefnwyd canolfannau arholi dynodedig hefyd yng Ngwlad Pwyl, Bwlgaria a Hwngari.
Mae myfyrwyr eraill yn sefyll yr arholiad dan oruchwyliaeth mewn ysgolion rhyngwladol yng Ngwlad Groeg, yr Eidal, Luxembourg, yr Iseldiroedd, Sbaen, Singapore, Sweden a'r Unol Daleithiau.
Gall Ysgoloriaethau Mynediad fod yn werth hyd at £2,000 y flwyddyn i ddarpar fyfyrwyr, yn ogystal â chynnig diamod.
Caiff y grantiau a’r cynigion eu dyfarnu ar sail canlyniadau dau arholiad 1.5 awr o hyd sy’n cael eu gosod gan y Brifysgol ac sy’n agored ar gyfer unrhyw gynllun gradd israddedig.
Dywedodd Kylie Evans, Swyddog Gwobrau Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch o weld cymaint o ymgeiswyr ar gyfer ein ysgoloriaethau arholiad mynediad eleni. Mae’r diddordeb mawr yma yn ein cyrsiau yn adlewyrchu’n henw da fel prifysgol sy’ n cael ei harwain ymchwil ac un sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol.
"Rydym yn ymwybodol o’r costau sy'n gysylltiedig â gwneud gradd ac mae gennym ystod o ysgoloriaethau, gwobrau a bwrsariaethau all helpu i leddfu'r baich ariannol i fyfyrwyr er mwyn iddyn nhw ganolbwyntio ar eu hastudiaethau."
Mae rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau Prifysgol Aberystwyth, bwrsariaethau a gwobrau ar gael ar ein gwefan.