Microbau’n creu eu cilfach
Meicrobau sy’n cystadlu ar laswellt. Tynnwyd gan ddefnyddio microsgop sganio Hitachi S-4700 FESEM gan Alan Cookson o Uwch Labordy Bio-Ddelweddu IBERS.
23 Ionawr 2017
Mae ymchwilwyr yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda’r Awdurdod Datblygu Bwyd ac Amaethyddiaeth yn Iwerddon (Teagasc) i ddatblygu ffordd newydd o weld sut mae gwahanol fathau o ficrobau’n gallu goroesi wrth iddynt gystadlu am adnoddau yn yr un amgylchedd.
Cyhoeddir y papur ar y ffordd newydd hon o ddod o hyd i’r hyn a elwir yn ‘gilfachau arbenigol’ gan dîm Dr Chris Creevey yn IBERS yn ‘Multidisciplinary Journal of Microbial Ecology’: The ISME Journal.
Dod o hyd i gilfach arbenigol yw’r broses lle mae rhywogaeth, drwy ddethol naturiol, yn ymaddasu’n well i nodweddion penodol un cynefin neilltuol.
Gall yr organebau hyn fod yn brif ysgogwyr prosesau pwysig yn y gymuned ac maent felly’n dargedau pwysig i ymchwilwyr sydd am lunio cymunedau microbaidd er mwyn cyflawni amcanion penodedig.
Gyda chymorth cyllid gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Rhaglen Seithfed Fframwaith yr UE a Science Foundation Ireland mae’r ymchwilwyr wedi gallu defnyddio dull esblygol o nodi’r genynnau a’r swyddogaethau sy’n chwarae rhan bwysig o safbwynt cynnal cilfachau arbenigol.
Dywedodd Dr Chris Creevey, “Roeddem yn awyddus i weld pa adnoddau y mae gwahanol ficro-organebau’n cystadlu drostynt pan fyddant yn rhannu’r un amgylchedd. Mae’n hollbwysig dod i ddeall hynny er mwyn goresgyn llawer o’r heriau mawr sy’n wynebu’r gymdeithas ddynol heddiw, megis rheoli ecosystemau naturiol a lliniaru newid yn yr hinsawdd.
“Er bod nifer fawr o astudiaethau o ficrobiomau wedi’u cynnal ar sail y poblogaethau microbaidd a geir yn y perfedd, y pridd, y môr a’r croen dynol, nid ydym eto wedi dod i ddeall yn llwyr ecoleg y micro-organebau sy’n chwarae rhan hanfodol ym mhopeth, o iechyd dynol i brosesau systemau’r ddaear.“
Y gred ers peth amser yw y dylai’r egwyddorion ecolegol a ddatblygwyd er mwyn astudio organebau mawr fod yn berthnasol hefyd i ficro-organebau ac er ein bod yn gwybod bod prosesau megis cystadlu a newid olyniaethol yn digwydd mewn cymunedau microbaidd, mae’n dal i fod yn her dod o hyd i ddangosyddion cilfachau arbenigol.
Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS: “Mae ein gwyddonwyr ar flaen y gad ym maes ymchwil i ymdrin ag allyriadau methan a newid yn yr hinsawdd. Mae’r astudiaeth hon wedi bod yn edrych ar ddangosyddion cilfachau arbenigol rhwng rhai o’r organebau mwyaf toreithiog ym microbiom y rwmen mewn gwartheg, sy’n ffynhonnell bwysig o fethan – y nwy tŷ gwydr mwyaf arwyddocaol ond un yn y DU.”
Roedd y canlyniadau’n nodi’r swyddogaethau penodol sy’n bwysig i bob organeb yn y gymuned ficrobaidd er mwyn cynnal eu cilfachau yn rwmen y gwartheg ac mae’n cynnig targedau newydd ar gyfer llunio’r microbiom hwn er mwyn cael y canlyniadau a ddymunir (megis lleihau nwyon tŷ gwydr).
Dyma’r tro cyntaf i ddulliau esblygol gael eu defnyddio yn y cyd-destun hwn a bydd yn cynnig cyfle i ymchwilwyr i ddod o hyd i enghreifftiau o gilfachau arbenigol yn unrhyw ficrobiom yn ogystal â nodi’r organebau sy’n bwysig er mwyn cyflawni swyddogaethau penodol yn unrhyw gymuned ficrobaidd.