Is-Ganghellor yn codi £10,000 tuag at gymorth i fyfyrwyr
Yn y llun, chwith i’r dde mae Caryl Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, Dylan Jones, Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro, Lauren Marks, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, a Darren Hathaway, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Chwaraeon y Brifysgol a’r siec am £10,107, arian a godwyd gan yr Athro Grattan yn sgil cwblhau triathlon IronMan Cymru
13 Ionawr 2017
Mae gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb ariannol diolch i her triathlon yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro John Grattan.
Fe lwyddodd yr Athro Grattan i gwblhau IronMan Cymru ym mis Medi 2016 ac erbyn hyn mae ei ymdrechion wedi codi dros £10,000, gyda rhoddion o bedwar ban byd.
Ar ddydd Mawrth 10 Ionawr 2017, fe gyflwynodd yr Athro Grattan siec am £10,107 i Gronfa Aber y Brifysgol sy'n helpu cannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn.
Bydd yr arian yn mynd tuag at gefnogi prosiectau caledi, iechyd a lles myfyrwyr.
Mae cystadleuaeth IronMan Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Ninbych y Pysgod Sir Benfro, yn cael ei hystyried gan lawer yn un o’r mwyaf heriol ar gylchdaith triathlon y byd.
Ar gwrs anodd, cwblhaodd yr Athro Grattan y cymal nofio 2.4 milltir yn y môr, taith feicio 112 milltir a rhediad marathon llawn 26.2 milltir mewn 16 awr 37 munud a 48 eiliad.
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant gwaith codi arian John a ddenodd gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion y Brifysgol. Rydym hefyd yn falch iawn bod ei ymdrechion, ei ymroddiad a’i lwyddiant wedi ysbrydoli eraill i ymgymryd â heriau personol fel Hanner Marathon Caerdydd.
"Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol at gynlluniau lliniaru achosion o galedi ariannol ac i hyrwyddo iechyd a lles ymysg ein myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn."
Meddai Caryl Davies, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r Gronfa Caledi Myfyriwr yn achubiaeth i lawer o fyfyrwyr sydd heb unrhyw le i droi ar adegau o drallod, ac i rai mae'n golygu’r gwahaniaeth rhwng aros neu roi'r gorau i’w haddysg."
Dywedodd Lauren Marks, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: "Bydd yr arian a godwyd gan her IronMan yn mynd yn bell o ran cyfrannu at ddatblygu ffyrdd dyfeisgar gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth i annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau iechyd a lles, yn ogystal â’u cynorthwyo ar adegau o bwysau yn ystod eu cyfnod prifysgol. Rydym yn edrych ymlaen at gynnig cyfleoedd newydd i fyfyrwyr dyfu a datblygu, a’n gobaith yw y byddant yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleodd fydd ar gael ar draws Prifysgol Aberystwyth diolch i’r £10,000 hwn.”