Prawf wrin newydd yn medru datgelu’n gyflym a yw person yn bwyta’n iach
Yr Athro John Draper
13 Ionawr 2017
Mae gwyddonwyr wedi datblygu prawf wrin sy'n mesur iechyd diet person.
Mae’r prawf pum munud yn mesur marcwyr biolegol mewn wrin sy’n cael eu creu wrth i fwydydd fel cig coch, cyw iâr, pysgod a ffrwythau a llysiau gael eu treulio.
Datblygwyd y dadansoddiad gan ymchwilwyr o Goleg Imperial Llundain, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Aberystwyth, ac mae’n rhoi syniad o faint o fraster, siwgr, ffibr a phrotein mae person wedi’i fwyta.
Er bod y gwaith yn ei ddyddiau cynnar, mae'r tîm yn gobeithio y bydd y prawf yn gallu cael ei ddatblygu i olrhain dietau cleifion. Gallai hyd yn oed gael ei ddefnyddio mewn rhaglenni colli pwysau i fonitro faint o fwyd mae rhywun yn ei fwyta.
Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw pobl yn cofnodi eu diet yn gywir, yn tan gofnodi bwyd nad yw’n iach ac yn gôr gofnodi faint o ffrwythau a llysiau maent yn eu bwyta - a’r tebygolrwydd bod yr anghywirdeb yma yn cynyddu os yw person yn rhy drwm neu'n ordew.
Dywedodd yr Athro Gary Frost, prif awdur yr astudiaeth o Adran Feddygaeth yn Imperial: "Un o wendidau mawr yn holl astudiaethau maeth a diet yw nad oes gennym unrhyw wir fesur o beth mae pobl yn ei fwyta. Rydym yn dibynnu yn llwyr ar bobl yn cadw dyddiadur o’r hyn y maent yn ei fwyta - ond mae astudiaethau yn awgrymu bod tua 60 y cant o bobl yn cam-adrodd yr hyn y maent yn ei fwyta i ryw raddau. Gallai’r prawf hyn fod y dangosydd annibynnol cyntaf o ansawdd deiet person - a'r hyn y maent yn ei fwyta mewn gwirionedd".
Mae’r Athro John Draper o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyd awdur ar yr astudiaeth ac yn gweithio ar ddatblygu prawf ar gyfer ei ddefnyddio yn y cartref.
Dywedodd yr Athro Draper: “Yr her yn y dyfodol yw cymhwyso'r dechnoleg a ddatblygwyd yn yr astudiaeth labordy hon mewn lleoliad cymunedol a monitro diet yn y cartref yn wrthrychol. Mae'r timau yn Aberystwyth a Newcastle wedi bod yn gwneud hyn ac mae'r canlyniadau yn edrych yn addawol iawn.”
Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Lancet Diabetes and Endocrinology ac a gynhaliwyd yn y Ganolfan Phenome Genedlaethol MRC-NIHR, gofynnwyd i 19 o wirfoddolwyr ddilyn pedwar diet gwahanol, yn amrywio o iach iawn i afiach iawn (gweler nodiadau i olygyddion).
Cawsant eu llunio gan ddefnyddio canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd sy’n cynghori ar y diet gorau i atal cyflyrau megis gordewdra, clefyd siwgr a chlefyd y galon.
Bu’r gwirfoddolwyr yn dilyn y diet am dri diwrnod tra mewn cyfleuster ymchwil yn Llundain, a thrwy gydol yr astudiaeth bu’r gwyddonwyr yn casglu samplau o wrin yn y bore, y prynhawn a gyda'r nos.
Yna, aeth y tîm ymchwil ati i asesu’r wrin am gannoedd o gyfansoddion, sef metabolion, sy’n cael eu cynhyrchu pan fydd rhai bwydydd yn cael eu treulio gan y corff.
Mae'r rhain yn cynnwys cyfansoddion sy'n dangos cig coch, cyw iâr, pysgod, ffrwythau a llysiau, yn ogystal â rhoi darlun o faint o brotein, braster, ffibr a siwgr a fwytawyd.
Maent hefyd yn cynnwys cyfansoddion sy'n tynnu sylw at fwydydd penodol megis ffrwythau sitrws, grawnwin a llysiau deiliog gwyrdd.
O'r wybodaeth hon, mae'r ymchwilwyr yn gallu datblygu proffil metabolyn wrin sydd yn dangos deiet iach a chytbwys a dogn dda o ffrwythau a llysiau.
Y syniad yw y gallai’r proffil 'deiet iach' hwn gael ei gymharu â'r proffil deiet o wrin unigolyn, i ddarparu dangosydd parod o a ydynt yn bwyta'n iach.
Yna aeth y gwyddonwyr ati i brofi cywirdeb y prawf ar ddata o astudiaeth flaenorol.
Roedd hon yn cynnwys 225 o wirfoddolwyr yn y DU, yn ogystal â 66 o bobl o Ddenmarc. Roedd pob un o'r gwirfoddolwyr wedi darparu samplau wrin, ac yn cadw gwybodaeth am eu diet bob dydd.
Galluogodd dadansoddi'r samplau wrin hyn i ymchwilwyr yn yr astudiaeth bresennol i ragweld yn gywir ddiet y 291 o wirfoddolwyr.
Dywedodd yr Athro John Mathers, cydawdur o Ganolfan Ymchwil Maeth Dynol ym Mhrifysgol Newcastle: “Am y tro cyntaf, mae'r ymchwil hwn yn cynnig ffordd wrthrychol o asesu pa mor iach yn gyffredinol yw diet pobl heb yr holl helynt, rhagfarnau a gwallau o gofnodi beth maent wedi’i fwyta.”
Mae'r tîm bellach yn gobeithio mireinio'r dechnoleg drwy ei brofi ar niferoedd mwy o bobl. Mae angen iddynt hefyd asesu cywirdeb y prawf ymhellach ar ddiet person arferol, tu allan i leoliad ymchwil.
Eglurodd Dr Isabel Garcia-Perez, cyd-awdur o Gyfadran Feddygaeth yn Imperial: "Mae angen i ni ddatblygu'r prawf ymhellach fel y gallwn fonitro'r deiet yn seiliedig ar sampl wrin sengl, yn ogystal â chynyddu sensitifrwydd. Bydd hyn yn y pen draw yn eu darparu offeryn ar gyfer monitro dietegol personol i helpu i gynnal ffordd iach o fyw. Nid ydym wedi cyrraedd y cam eto lle y gall y prawf ddweud wrthym fod person wedi bwyta 15 o sglodion ddoe a dwy selsigen, ond mae hyn ar y ffordd."
Ychwanegodd y tîm y gall y dechnoleg un diwrnod gael ei defnyddio ochr yn ochr â rhaglenni colli pwysau, yn ogystal ag adsefydlu cleifion, er enghraifft i helpu cleifion sydd wedi dioddef trawiad ar y galon i ddilyn diet iach.
Ychwanegodd yr Athro Elaine Holmes, cyd-awdur gan yr Adran Llawfeddygaeth a Chanser yn Imperial: "Ein gobaith yw bod y prawf hwn ar gael i'r cyhoedd o fewn y ddwy flynedd nesaf. Y syniad yw y byddau sampl wrin wedi ei gasglu yn y cartref a’i chyflwyno i ganolfan leol ar gyfer ei dadansoddi. Rydym yn rhagweld y bydd yn cael ei ddefnyddio gan ddeietegwyr i helpu i lywio anghenion dietegol eu cleifion, neu hyd yn oed gan unigolion sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y berthynas rhwng deiet a'u hiechyd.”
Dywedodd Dr Des Walsh, pennaeth meddygaeth poblogaeth a systemau yn y Cyngor Ymchwil Meddygol: "Er bod yr ymchwil hwn yn dal i fod yn ei gamau cynnar, mae'n mynd i'r afael â dulliau hanfodol mewn astudiaethau bwyd a diet lle mae angen gwirioneddol am ddatblygiadau. Bydd mesur yr hyn yr ydym yn ei fwyta a’i yfed yn fwy cywir yn ehangu manteision ymchwil maeth, ac yn datblygu gwell triniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella iechyd yr unigolyn a lleihau gordewdra."
Cafodd y gwaith ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.
Mae’r astudiaeth ‘Objective assessment of dietary patterns by use of metabolic phenotyping: a randomised, controlled, crossover trial’ wedi ei chyhoeddi yn y Lancet Diabetes and Endocrinology.