Dyddiad cau ysgoloriaethau mynediad
13 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn annog ymgeiswyr i beidio â cholli allan ar gymorth ariannol ar drothwy’r dyddiad cau ar gyfer eu harholiadau mynediad, sef 18 Ionawr 2017.
Gall Ysgoloriaethau Mynediad fod yn werth hyd at £2,000 y flwyddyn i ddarpar fyfyrwyr, yn ogystal â chynnig diamod.
Caiff y grantiau a’r cynigion eu dyfarnu ar sail canlyniadau dau arholiad 1.5 awr o hyd sy’n cael eu gosod gan y Brifysgol ac sy’n agored ar gyfer unrhyw gynllun gradd israddedig.
Gall ymgeiswyr sefyll yr arholiad naill ai yn y Brifysgol Ddydd Mawrth 31 Ionawr 2017 neu yn ysgol neu goleg y myfyriwr cyhyd â bod Swyddog Arholiadau yn bresennol.
Dywedodd Swyddog Gwobrau Academaidd y Brifysgol, Kylie Evans: "Rydym yn ymroddedig i feithrin amgylchedd o gyfleoedd cyfartal yma yn Aberystwyth ac mae'n hysgoloriaethau yn fodd o gynorthwyo a gwobrwyo myfyrwyr sydd am lwyddo ym maes addysg uwch.
"Bydden i’n annog ymgeiswyr sydd am astudio gyda ni o fis Medi 2017 ymlaen i gofrestru ar gyfer ein harholiadau Ysgoloriaeth Mynediad a hynny erbyn 18 o Ionawr. Rydyn ni gyd yn gwybod am y costau sy'n gysylltiedig ag astudiaethau prifysgol ac mae cael cymorth ariannol o’r fath yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn - felly rhowch gynnig arni."
Mae Sam Schanzer yn un o nifer o ymgeiswyr a safodd yr Arholiad Mynediad yn 2016 ac mae bellach yn fyfyriwr llawn amser ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Seliodd derbyn Ysgoloriaeth fy mhenderfyniad i ddod i Aber. Hyd yn oed os nad oeddwn i’n cael gwobr lawn, roeddwn yn gwybod fy mod wedi ennill cynnig diamod. Roedd hynny'n lleddfu’r pwysau ar arholiadau’r haf ac yn destun balchder i fy nheulu a finnau."
Mae pob ymgeisydd sy’n llwyddo yn yr arholiad mynediad yn cael cynnig di-amod o le yn y Brifysgol, yn ogystal â gwarant o le i fyw mewn un o neuaddau preswyl y Brifysgol trwy gydol eu hamser fel myfyriwr israddedig.
Mae gan y Brifysgol ystod eang o ysgoloriaethau, gwobrau teilyngdod a bwrsariaethau sy’n werth hyd at £ 15,000 y flwyddyn. Am fanylion llawn, gweler ein gwefan.