Arddangosfa newydd i ddatgelu sut mae tirwedd Cymru’n newid
24 Medi 2019
Delweddau lloeren sy’n dangos sut mae’r amgylchedd byd-eang wedi newid yn y 35 mlynedd ddiwethaf a’r effeithiau ar dirwedd Cymru yw canolbwynt arddangosfa newydd yn yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.
WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil
03 Medi 2019
Mae WISERD, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar fudo
28 Mehefin 2019
Troseddau casineb, atgasedd ac ymateb cymdeithas sifil i fudo, dyma rai o’r pynciau fydd yn cael sylw mewn symposiwm undydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019.
Cysylltiadau ymchwil newydd gyda Patagonia
22 Chwefror 2019
Bydd dau ddaearyddwr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Batagonia’r Ariannin ym mis Mawrth 2019 i adeiladu cysylltiadau ymchwil agosach gyda’r rhanbarth.
Datod gwlân o Brydain: sut mae'r lleol a'r byd-eang wedi'u cydblethu wrth greu cynnyrch bob dydd
26 Tachwedd 2018
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Dr Jesse Heley a Dr Laura Jones o Adran Daearyddiaeth y Brifysgol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Tymheredd iâ yn gynhesach na’r disgwyl ar relwif ucha’r byd
19 Tachwedd 2018
Mae tymheredd yr iâ o fewn rewlif ucha’r byd ar lethrau Mynydd Everest yn gynhesach na'r disgwyl, yn ôl ymchwil newydd gan rewlifegwyr o brifysgolion Aberystwyth, Kathmandu, Leeds a Sheffield.
Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd mewn Cymdeithaseg
05 Hydref 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio cynllun gradd anrhydedd sengl newydd mewn Cymdeithaseg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20.
Ditectifs tirwedd yn cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth
31 Awst 2018
Bydd geomorffolegwyr o bob cwr o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth ym mis Medi wrth i Gymru gynnal prif gyfarfod academaidd y ddisgyblaeth yn DU am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Prifysgol Aberystwyth i arwain prosiect £3m technoleg geo-ofodol a thechnoleg y gofod yng Nghymru
13 Gorffennaf 2018
Mae menter newydd sydd wedi derbyn cefnogaeth yr UE i helpu cwmniau yng Nghymru i fanteisio ar y farchnad gwybodaeth ddaearyddol yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.
Dathlu 100 mlynedd o Ddaearyddiaeth
03 Gorffennaf 2018
Daeth dros 200 o gyn-fyfyrwyr a staff at ei gilydd yn Aberystwyth dros benwythnos 29 Mehefin - 1 Gorffennaf 2018 i ddathlu canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.
Daearegwr yn cyhoeddi llyfr am ddaeareg gwinllanoedd
07 Mehefin 2018
Wrth i gynhyrchwyr gwin ganu clodydd y priddoedd lle mae’u gwinllanoedd yn tyfu, mae llyfr newydd gan ddaearegwr o Brifysgol Aberystwyth yn ystyried sut y gall daeareg ddylanwadu ar winllan a’i chynnyrch.
Cydnabod rhagoriaeth ymchwil rhewlifegydd o Aberystwyth
21 Mai 2018
Mae rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Michael Hambrey, wedi ei gydnabod am ragoriaeth ei ymchwil yn Antarctica a Chefnfor y De, a’i wasanaeth rhagorol i gymuned ryngwladol Antarctica.
Pam ein bod ni'n drilio i fewn i rewlifau ucha’r byd ar Everest gyda peiriant golchi ceir wedi’i addasu
14 Mai 2018
Mewn erthygl yng nghylchgrawn The Conversation, mae, Katie Miles a'r athro Bryn Hubbard o'r adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn esbonio sut maent yn ceisio deall cyfrinachau rhewlifoedd Mynydd Everest:
Astudiaeth newydd yn dangos teneuo sylweddol i rewlif ym Mhatagonia
09 Mai 2018
Astudiaeth ryngwladol, sydd yn cynnwys rhewlifegwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn dangos bod Rhewlif Benito yng ngogledd Patagonia wedi teneuo 133 metr yn y 44 mlynedd diwethaf.
Nid yw gwahardiad ar fagiau plastig yn ddigon, felly dewch i ni edrych ar gyfrifon carbon personol o'r newydd
22 Ionawr 2018
Mewn erthygl yn y Conversation (Saesneg), mae'r ymchwilydd Martin Burgess yn trafod astudiaeth ddichonoldeb, sydd wedi derbyn cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol, i bolisi ymddygiad amgylcheddol ar draws Cymru: cyfrifon carbon personol.
Cofnod newydd, hir o hinsawdd Affrica’n cefnogi dyddiadau cynnar Allan o Affrica
18 Ionawr 2018
Mae ymchwil newydd yn dangos bod hinsawdd gogledd ddwyrain Affrica wedi ffafrio mudo gan fodau dynol modern cynnar allan o Affrica hyd at 70,000 o flynyddoedd yn gynt na’r hyn a amcangyfriwyd ac a dderbyniwyd yn eang tan yn ddiweddar.
Ymchwil yn dangos sut mae pyllau rhewllyd ar wyneb rhewlifoedd yr Himalaya yn dylanwadu ar lif y dŵr
08 Ionawr 2018
Gwyddonwyr o Aberystwyth yn datgelu bod llif y dŵr sy'n cynnal isadeiliedd trydan hydro a dyfrhau ym mynyddoedd Nepal ac India yn cael ei reoleiddio gan gannoedd o byllau rhewllyd mawr ar wyneb rhai o rhewlifau uchaf y byd.