Ysgoloriaethau Meistr ADGD ar gael

22 Mai 2015

Mae ADGD yn falch i gyhoeddi cyfleoedd ysgoloriaethau i ddarpar fyrfyrwyr MSc a MA. Mae gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gymuned fywiog o fyfyrwyr uwchraddedig sy’n rhan allweddol o’n rhagoriaeth ymchwil. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu rhaglenni uwchraddedig rhyngddisgyblaethol mentrus a newydd, yn ogystal â chynnig meysydd ymchwil sylfaenol ym maes daearyddiaeth a gwyddorau daear amgylcheddol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ôl-raddedig

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein Ysgoloriaethau Meistr