Astudio dramor

St Peter's Basilica in Rome

Ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch amrywiaeth cyffrous o opsiynau i fynd tramor fel rhan o’ch gradd: o gyrsiau byr a chyfleoedd i wirfoddoli yn yr haf, i semester neu flwyddyn lawn dramor yn astudio eich dewis bwnc yn un o’n prifysgolion partner.

Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear yn cynnig nifer o gyrsiau gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor, sy’n eich galluogi i astudio yn un o’n prifysgolion partner Ewropeaidd neu ryngwladol yn ystod eich trydedd flwyddyn, gan ddychwelyd i Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn olaf a graddio.

Os ydych chi’n astudio gradd gyda blwyddyn ddiwydiannol integredig, gallwch ddewis treulio rhan neu’r cyfan o’ch blwyddyn mewn diwydiant dramor i gwblhau eich lleoliad gwaith.

Mae adroddiadau’n dangos bod myfyrwyr sy’n astudio dramor yn fwy deniadol i gyflogwyr ac yn ennill mwy na’u cymheiriaid. Gall amser a dreuliwch yn dysgu am ddiwylliant newydd gyfoethogi eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, gwella eich gallu iaith ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Pam na fanteisiwch chi ar gyfle oes a gwella eich sgiliau beirniadol drwy ddewis astudio dramor?

Gwybodaeth am ble y gallwch fynd fel myfyriwr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear…