Prifysgol Aberystwyth i arwain prosiect £3m technoleg geo-ofodol a thechnoleg y gofod yng Nghymru

13 Gorffennaf 2018

Mae menter newydd sydd wedi derbyn cefnogaeth yr UE i helpu cwmniau yng Nghymru i fanteisio ar y farchnad gwybodaeth ddaearyddol yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o raglen Data Daearyddol ac Arsyllu ar y Ddaear ar gyfer Monitro (GEOM) bydd Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio â QineitQ i gynorthwyo cwmnïau o Gymru i fanteisio ar y dechnoleg lloeren a drôn ddiweddaraf.

Gall data a ddarperir gan y dechnoleg gynnig gwybodaeth hanfodol ar gyfer ystod o sectorau, yn eu plith amaethyddiaeth, ynni, diogelwch, amgylchedd, trafnidiaeth ac isadeiledd.

Cafodd y fenter £3m, sydd yn derbyn £1.9m o arian gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru, ei chyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC heddiw, ddydd Gwener 13 Gorffennaf 2018.

Ei nod yw adnabod ffyrdd newydd ac arloesol o ddal a dadansoddi gwybodaeth ofodol a data geo-ofodol trwy dechnoleg lloeren a drôn er mwyn datblygu cynnyrch a gwasanaethau parod i’r farchnad.

Dywedodd Mark Drakeford AC: “Mae hon yn enghraifft dda arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyllid yr UE i helpu i sicrhau bod Cymru yn genedl sy'n gallu cystadlu ac sy'n barod i weithredu ar lwyfan byd-eang. Mae sicrhau bod arbenigedd ac ymchwil arloesol o'r radd flaenaf ar waith yn ein prifysgolion, ac yn cydweithio â'n busnesau, yn denu buddsoddiad ac yn sbardun i gyflogadwyedd yn y sector hwn sy'n tyfu mor gyflym. Mae Cymru wedi elwa'n fawr ar gyllid yr UE dros y blynyddoedd, ac mae hyn unwaith eto yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod cyllid ar gael i Gymru yn lle’r cyllid hwn ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd."

Bydd y prosiect yn cael ei arwain ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Dr Peter Bunting o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Dywedodd Dr Bunting: “Wrth i dechnolegau symudol, apiau, a systemau clyfar allu cysylltu â data daearyddol sy'n dod o systemau yn y gofod, bydd y technolegau hyn yn chwarae rôl fwyfwy pwysig yn ein heconomi a'n bywydau o ddydd i ddydd. Mae'r maes hwn, sy'n tyfu'n gyflym, yn dechrau manteisio ar y posibiliadau sy'n deillio o gasglu gwybodaeth ddaearyddol drwy dechnoleg dronau. Mae rhaglen GEOM yn sicrhau bod cwmnïau o Gymru ar y blaen yn y maes cyffrous hwn sy'n tyfu'n gyflym, gan greu swyddi a datblygu nwyddau a gwasanaethau newydd.”

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda hyd at 25 o gwmnïau sydd eisoes yn defnyddio technolegau o'r fath, i helpu i fynd i'r afael â heriau sy'n effeithio ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, ynni ac isadeiledd.

Er enghraifft, gellir defnyddio dronau i fapio peryglon megis coed sydd wedi gordyfu neu argloddiau serth ar hyd rheilffyrdd lle mae’n beryglus ac yn ddrud i weithio.

Gellir defnyddio lloerenau i fonitro planhigfeydd coedwig er mwyn adnabod arwyddion cynnar o heintiau neu straen.

Bydd y rhaglen Data Daearyddol ac Arsyllu ar y Ddaear ar gyfer Monitro (GEOM) yn canolbwyntio ar gasglu data i wella monitro amgylcheddol, amaethyddiaeth fanwl, trafnidiaeth ac isadeiledd ynni, chwilio ac achub, cymorth tramor a tirfesur geomatig.