Dathlu 100 mlynedd o Ddaearyddiaeth
Myfyrwyr a staff o’r presennol a’r gorffennol ar risiau’r La Scala ar gampws Penglais gyda'r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth (canol), ar ddechrau penwythnos o weithgareddau i nodi canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol ac aduniad blynyddol Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr.
03 Gorffennaf 2018
Daeth dros 200 o gyn-fyfyrwyr a staff at ei gilydd yn Aberystwyth dros benwythnos 29 Mehefin - 1 Gorffennaf 2018 i ddathlu canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.
O brif siaradwyr i deithiau maes a hen ffilmiau, cafodd penwythnos arbennig o ddigwyddiadau a gweithgareddau ei drefnu i nodi pen-blwydd yr adran yn 100 oed.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i edrych yn ôl ar gyflawniadau'r Adran yn ogystal â'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Fe diethiodd rhai cyn-fyfyrwyr o bell i fynychu’r dathliadau, gan gynnwys Seland Newydd a British Columbia yng Nghanada.
Roedd rhai cyn-fyfyrwyr wedi teithio o bell i fynychu’r dathliadau, gan gynnwys o Seland Newydd a British Columbia yng Nghanada.
Daeth y myfyrwyr cyntaf i Aberystwyth i astudio Daearyddiaeth yn ystod Haf 1918, wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben,
Yr Hen Goleg ar lan y môr oedd y lleoliad dysgu gwreiddiol, gyda'r Adran yn symud i'w chartref presennol yn adeilad Llandinam ar gampws Penglais ym 1965.
Yn 1988, fe gyfunwyd Daearyddiaeth â Daeareg - adran a sefydlwyd yn 1910 ac a oedd yr un mor uchel ei bri – ac fe gyflwynwyd graddau newydd mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol a Gwyddoniaeth Ddaear Amgylcheddol.
Hyd yma, mae dros 8,000 o fyfyrwyr wedi graddio o'r Adran, gyda graddedigion heddiw yn gweithio fel darlithwyr ac athrawon mewn prifysgolion o California i Tsieina, a De Cymru Newydd i Dde Affrica, yn ogystal â phroffesiynau eraill.
Ymhlith y staff nodedig ar draws y degawdau y mae Pennaeth cyntaf yr Adran, yr Athro H.J. Fleure - a gydnabyddir fel un o gewri Daearyddiaeth yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif - a'r Athro E G Bowen a deithiodd o gwmpas Cymru yn ei gar Mini melyn nodedig, yn traddodi darlithoedd cyhoeddus ar ddaearyddiaeth diwylliannol a hanesyddol Cymru.
Enillodd yr Adran lu o wobrau ar hyd y daith ac mae ymhlith y 150 o Adrannau Daearyddiaeth uchaf yn y byd (QS World Rankings 2017).
Mae staff yng Nghanolfan Rhewlifeg yr Adran, sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, wedi ennill Medal y Pegynau (Polar Medal) dair gwaith.
Enillodd yr Athro Emeritws Michael Hambrey Fedal y Pegynau ddwywaith, ac yn 2018 fe dderbyniodd Fedal Rhagoriaeth mewn Ymchwil Antarctig gan Bwyllgor Gwyddonol ar Ymchwil Antarctig (SCAR). Yn 2017, derbyniodd yr Athro Bryn Hubbard Fedal y Pegynnau ac yn 2016, cafodd rhewlif ei enwi ar ôl yr Athro Neil Glasser.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Hoffwn longyfarch yr adran - ei staff, myfyrwyr a chefnogwyr o’r gorffennol a'r presennol - ar gyrraedd y pen-blwydd nodedig hwn. Dros y ganrif ddiwethaf, mae'r Adran hon wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r ddealltwriaeth fyd-eang o ddaearyddiaeth ffisegol a dynol. Bydd ei hymchwilwyr a'i graddedigion yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr drwy ei haddysgu a'i hymchwil, ac adeiladu ymhellach ar ein dealltwriaeth o newid hinsawdd a materion eraill o bwys sy'n wynebu ein planed.”
Dywedodd yr Athro Michael Woods o’r Adran fu’n arwain y trefniadau ar gyfer dathlu’r canmlwyddiant: “Gydag Aberystwyth ymhlith y 150 o adrannau daearyddiaeth gorau’r byd yn nhabl cynghrair y QS University Rankings, mae gennym ddigon i'w ddathlu yn 2018. Fel Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, rydyn ni’n dal i gwmpasu’r celfyddydau a’r gwyddorau, yn ogystal â'r lleol a byd-eang, ac mae’n hymrwymiad i integreiddio ymchwil ac addysgu yn parhau. Caiff hyn ei amlygu ar ei orau gan ein teithiau maes enwog.
“Mae cenedlaethau o raddedigion o'r 1970au a'r 1980au yn parhau i hel atgofion am eu taith maes blwyddyn gyntaf i Ddinbych-y-pysgod, neu dramor i Baris neu Sbaen. Yn ddiweddarach, Aberystwyth oedd yn un o'r adrannau daearyddiaeth cyntaf ym Mhrydain i drefnu taith maes i Efrog Newydd, tra fod ein teithiau maes i Seland Newydd yn dal mor boblogaidd ag erioed ac yn destun eiddigedd ymysg myfyrwyr a staff mewn mannau eraill.”
Dywedodd yr Athro Paul Brewer, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: "Pleser oedd croesawu cyn-fyfyrwyr a staff yn ôl i’r campws wrth inni fwrw golwg nôl ar gan mlynedd o ddaearyddiaeth yn Aberystwyth. Pan ddechreuon ni ddysgu'r pwnc nôl ym 1918, ni oedd yr adran gyntaf o'i bath yng Nghymru ac un o dair yn unig yn y DU oedd yn cynnig gradd mewn Daearyddiaeth. Mae ein henw da yn deillio o ehangder ein hymchwil rhyngwladol ac ansawdd ein haddysgu, sy'n cyfuno'r traddodiadau gorau gyda'r datblygiadau arloesol diweddaraf. Mae ein darlithfeydd wedi cael eu hadnewyddu’n ddiweddar gydag offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf, ac edrychwn ymlaen nawr at godi dysgu Daearyddiaeth yn yr 21ain ganrif i’r lefel nesaf.”
Daeth Llywydd presenol Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Aberystwyth, John Frampton, i astudio Daeareg yn Aberystwyth ym 1958 ac fe drefnwyd aduniad blynyddol y Gymdeithas eleni i gydfynd â dathliadau'r canmlwyddiant: "Rwy'n llongyfarch yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ar gyrraedd ei chanmlwyddiant ac yn dymuno'n dda iddi wrth symud ymlaen i’r 100 mlynedd nesaf. Roedd yn wych gweld cynnifer yn dychwelyd ar gyfer y dathliadau. Roedd y cyfeillgarwch mor dwymgalog ag erioed wrth o ni hel atgofion am Aber a’r oll mae’r lle yn ei olygu i ni yn ei ffordd hyfryd ac unigryw.”
Roedd y rhaglen ar gyfer Penwythnos Canmlwyddiant 29 Mehefin - 1 Gorffennaf yn cynnwys:
Dydd Gwener 29 Mehefin 2018
- Derbyniad gyda’r yr Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure ar gyfer cyn-fyfyrwyr yr Adran ac aelodau Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr yn Llyfrgell Hugh Owen, sydd newydd ei hadnewyddu, ac yna cwis GeoSoc yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Sadwrn 30 Mehefin 2018
- Cyfres o sgyrsiau, arddangosfeydd a gweithgareddau yn adeilad Llandinam, gyda theithiau o gwmpas yr Adran yn gynnwys y Labordy Canmlwyddiant newydd a'r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir ym maes Arsylwi ar y Ddaear ac addysgu ac ymchwil ym maes Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).
- Darlith y Canmlwyddiant gan yr Athro John Lewin, Athro Emeritws Daearyddiaeth Ffisegol a chyn Dirprwy Is-Ganghellor – ‘Geography and Earth Sciences: Past, Present and Future’.
- Cinio Canmlwyddiant fin nos gydag araith gan yr Athro Rhys Jones, cyn-fyfyriwr ac aelod o staff yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Dydd Sul 1 Gorffennaf 2018
- Teithiau maes i Gwm Rheidol, Cors Fochno ac Ynyslas a chylfe i ganfod sut mae ymchwil yr Adran yn ein cynorthwyo i ddeall yr amgylchedd a chymdeithas yng Nghymru.