Gallai microbau sy’n cronni ar yr Ynys Las arwain at golli rhagor o iâ medd ymchwil
Ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth ar yr Ynys Las
25 Mehefin 2021
Fe allai Llen Iâ’r Ynys Las fod dan fygythiad oherwydd bod microbau sydd ar ei arwyneb yn lluosogi’n gynt nag y cant eu golchi i ffwrdd mewn hinsawdd sy’n cynhesu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth.
Llen Iâ’r Ynys Las yw’r darn mwyaf o iâ yn hemisffer y gogledd.
Mae’n ymestyn dros ardal o oddeutu saith gwaith maint y Deyrnas Gyfunol a dyfnder o hyd at 3 km (2 filltir).
Mae ei arwyneb yn cynnal cyfoeth o fywyd microbaidd, gan gynnwys algae, sy’n medru newid lliw'r iâ drwy ffotosynthesis a storio carbon yn ystod misoedd yr haf.
Caiff y dyddodion carbon eu symud drwy gael eu golchi i ffwrdd gan ddŵr tawdd naturiol.
Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Nature Communications gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod i’r casgliad bod cyfanswm y dyddodion hyn yn lluosogi’n gynt nag y cant eu golchi ymaith.
Mae’r ymchwilwyr yn amcangyfrif bod y dŵr tawdd yn golchi i ffwrdd 37 kg o ddyddodion carbon o bob cilometr sgwâr o arwyneb y llen iâ, bob haf.
Awgryma’r astudiaeth fod pob metr sgwâr o arwyneb y llen iâ yn gartref i o leiaf 1,500 miliwn microb sy’n dal i dyfu a chynyddu. Fodd bynnag, dim ond 190 miliwn o’r rheini sy’n cael eu cludo i’r nentydd sy’n llifo ar arwyneb yr iâ bob dydd.
Mae hyn yn golygu bod carbon yn pentyrru ar arwyneb y llen iâ, gyda mwy o gyfnewidiadau carbon a gallai dywyllu.
Byddai llen iâ dywyllach yn adlewyrchu llai o olau’r haul yn ôl i’r gofod, gan olygu y bydd y llen iâ yn toddi mwy - gallai hefyd gyfrannu at newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr.
Dadansoddodd yr academyddion samplau dŵr tawdd gan ddefnyddio offeryn laser, a elwir yn cytometer llif, i gyfrif niferoedd y microbau sy’n bresennol.
Fel rhan o’u gwaith, defnyddiodd yr ymchwilwyr ddronau er mwyn mapio nentydd dŵr tawdd ar Len Iâ orllewinol yr Ynys Las.
Wrth siarad am y papur ymchwil newydd, dywedodd ei brif awdur Dr Tristram Irvine-Fynn o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae arwyneb Llen Iâ’r Ynys Las yn hynod ddiddorol. Rydyn ni’n gwybod ei bod yn caffael ac yn allforio carbon ar yr un pryd, ond mae nifer o’r llwybrau a phrosesau sy’n gysylltiedig â’r carbon hwn yn ddirgelwch o hyd. Mae ein dadansoddiad yn datgelu bod mwy o ficrobau yn cronni ar yr arwyneb nag sy’n cael eu golchi i ffwrdd. Mae mwy o ficrobau yn golygu mwy o garbon organig. Gallai hyn gyfrannu at dywyllu arwyneb y llen iâ, a fydd yn dal ati i gynyddu wrth i ardaloedd mwy o’r cynefin iâ gael eu peryglu gan dymor toddi’r haf.”
Yn ogystal, mae’r ymchwil yn amcangyfrif am y tro cyntaf faint o garbon microbaidd sy’n cyrraedd gwely'r llen iâ.
Wrth i ragor o garbon gael ei drosglwyddo o arwyneb y llen iâ i’w gwely, gellid cynhyrchu rhagor o fethan - nwy tŷ gwydr sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.
Ychwanegodd Dr Irvine-Fynn:
“Ein gwaith yw’r asesiad cyntaf o faint o garbon sy’n cael ei drosglwyddo o’r arwyneb i waelod y llen iâ. Mae’r amcangyfrif gwaelodol hwn yn rhoi cipolwg allweddol i ni o ffactor arall sy’n effeithio ar newid hinsawdd, sef cefnogi ecosystem gwely’r iâ sy’n llawn microbau ac yn achosi cynhyrchiant methan yno.”
Dywedodd cydawdur yr astudiaeth Dr Arwyn Edwards:
“Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn cefnogi’r casgliad bod llenni iâ’r Ddaear, yn bell o fod yn anialwch rhewllyd o ran bywyd, ac yn llawn bywyd microbaidd mewn gwirionedd. Wrth i ni barhau i gynhesu’r hinsawdd, mae tynged y microbau hyn a’u rôl mewn cylch carbon y Ddaear yn cydblethu gyda thynged eu cynefinoedd rhewllyd, ac felly ein dyfodol.”
Cefnogwyd yr ymchwil gan y Gymdeithas Frenhinol, y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Naturiol, Ymddiriedolaeth Leverhulme ynghyd â chefnogaeth arall gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth.