Dronau’n tynnu lluniau o len iâ’r Ynys Las yn hollti
Lansio drôn yn ystod astudiaeth 2018. Roedd dronau wedi'u hadeiladu'n benodol yn caniatáu i ymchwilwyr ddelweddu wyneb y llen iâ mewn 3D, gan ganiatáu i ymateb yr iâ i ddraeniad y llyn gael ei fapio mewn cydraniad digynsail. Delwedd: Tom Chudley
11 Rhagfyr 2019
Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at astudiaeth sy’n ymchwilio i sut mae ail len iâ fwyaf y byd, yr un peth sy’n cyfrannu fwyaf at y cynnydd yn lefel byd-eang y môr, yn ymateb i ddraenio catastroffig llynnoedd dŵr toddi enfawr sy’n ffurfio ar ei harwyneb.
Gan ddefnyddio dronau sydd wedi eu hadeiladu’n arbennig ac sy’n ddigon cryf i wrthsefyll yr amodau Arctig eithafol, mae’r Athro Bryn Hubbard a Dr Sam Doyle wedi gweithio gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caergrawnt i gofnodi’r mesuriadau cyntaf gan ddrôn o sut mae holltau’n draenio llynnoedd dŵr toddi ar Len Iâ’r Ynys Las.
Mae’r astudiaeth newydd, sydd wedi ei hysgrifennu ar y cyd gan yr Athro Hubbard a Dr Doyle o Ganolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o sut mae holltau’n achosi draenio llyn catastroffig ble caiff meintiau enfawr o ddŵr wyneb eu trosglwyddo o dan yr iâ, a – oherwydd symudiad iro rhewlifoedd – chyfrannu at godi lefel y môr.
Eglura’r Athro Hubbard: “Bob haf, mae miloedd o lynnoedd yn ffurfio oherwydd bod arwynebau’n torri o gwmpas ymylon Llen Iâ’r Ynys Las. Mae nifer o’r rhain yn draenio’n gyflym, gan ddosbarthu llawer iawn o ddŵr toddi i waelod y llen iâ mewn ychydig oriau.
“Unwaith iddo gyrraedd, mae’r dŵr hwnnw’n rhoi pwysau ar sianeli tanrewlifol sydd eisoes yn bodoli ac yn codi’r iâ oddi ar ei wely, gan achosi i symudiad yr iâ gyflymu’n lleol, gan ddosbarthu rhagor o iâ i’r cefnfor a gwneud i lefel y môr godi eto.”
“Yn y papur hwn rydyn ni’n cofnodi mesuriadau ymarferol o’r dronau a rhwydwaith o GPSau arwyneb o ddraenio cyflym llyn sydd yn union wrth ymyl ein gwersyll iâ yn haf 2018.
“Mae’n anarferol iawn i fod yn dyst i ddigwyddiad draenio o’r fath, heb sôn am allu mesur ei effeithiau hydrolegol ac iâ-ddynamegol, felly roedd hwn yn brofiad unigryw i mi – ac un sy’n annhebygol o gael ei ailadrodd.”
Gan ddefnyddio technoleg drôn, roedd y tîm yn gallu cofnodi llif y dŵr i mewn i’r hollt a llwybr y dŵr o dan yr iâ ar ôl hynny. Mae eu deunydd ffilm yn cefnogi’r dystiolaeth flaenorol a ddarparwyd gan fodelau cyfrifiadurol trwy ddangos bod draenio llynnoedd dŵr toddi ar yr Ynys Las yn gallu digwydd mewn adwaith cadwynol. Mae’r astudiaeth newydd hon nawr yn cynnig cipolwg ar sut mae’r adweithiau cadwynol hyn o bosibl yn cael eu sbarduno, gyda llynnoedd sy’n gallu draenio trwy holltau sydd eisoes yn bodoli.
Gan ddefnyddio offer drilio, mae’r tîm nawr yn archwilio sut mae’r dŵr yn cael ei gynnwys yn system ddraenio’r rhewlif a sut y gallai’r llen iâ newid yn ystod y degawdau sydd i ddod wrth i’r hinsawdd barhau i gynhesu.
Cynhaliwyd yr ymchwil hwn fel rhan o brosiect RESPONDER ac fe’i ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd o dan raglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.